Sefydliad Confucius yn dod a dysgu iaith Tsiein毛eg i Fangor
Mae鈥檙 iaith Tsiein毛eg ymysg y pum iaith fwyaf poblogaidd i鈥檞 dysgu, yn 么l erthygl yn Newyddlen Sefydliad Confucius .
Yn dilyn lansiad llwyddiannus y Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn gynharach y flwyddyn academaidd hon, mae鈥檙 Sefydliad Confucius wedi dechrau ar raglen ddiddorol ac amrywiol o weithgareddau i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am ddiwylliant Tsieineaidd. Mae'r rhain yn cynnwys ystod o ddosbarthiadau iaith Tseineaidd.
Cynhaliwyd dosbarth Tsiein毛eg i ddechreuwyr llwyddiannus iawn, a gynigwyd drwy'r Ysgol Ieithoedd Modern, y semester hwn, a bydd yn cael ei gynnig fel modiwl blynyddol yn y dyfodol. Roedd tua 20 yn dilyn y cwrs, a oedd ar gael i fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 ac i'r gymuned leol drwy gyfrwng rhaglen Dysgu Gydol Oes.
Semester nesaf, bydd myfyrwyr yr Ysgol Fusnes ac yn wir unrhyw fyfyrwyr y Brifysgol sy鈥檔 dysgu Tsiein毛eg Busnes lefel canolradd yn gallu manteisio ar y cyfle i gael tiwtora un i un. Bydd hyn yn cael ei hwyluso gan fyfyrwyr a staff brodorol Tsieineaidd y Brifysgol.
Mae'r addysgu Tsiein毛eg yn cael ei ddarparu gan ddau Athro Iaith Tsiein毛eg proffesiynol o Brifysgol Tsieina dros Wyddor Wleidyddol a Chyfraith, sef partneriaid Prifysgol 黑料不打烊 yn Sefydliad Confucius.
Mae'r Ganolfan Confucius hefyd yn trafod datblygu 'ystafelloedd dosbarth Confucius' gyda sawl ysgol yn y rhanbarth, ac o ran cynnig Tsiein毛eg at safon Lefel A. I'r perwyl hwn, mae'r Sefydliad yn gwneud cais am gydnabyddiaeth fel canolfan brawf lefel A Tsiein毛eg. Bydd y Sefydliad hefyd yn darparu profion safonol hyfedredd Iaith Tsiein毛eg o 2013 ymlaen. Bydd y profion hyn yn mesur gallu myfyrwyr i ddefnyddio鈥檙 iaith Tsiein毛eg yn eu hastudiaethau, eu bywyd personol a gwaith.
Mae Ysgol y Gyfraith hefyd yn gobeithio dilysu gradd newydd, y Gyfraith gydag Astudiaethau Tsieineaidd, i ddechrau ym mis Medi 2013.
Am fwy o wybodaeth am y dosbarthiadau a digwyddiadau eraill y Sefydliad Confucius ewch i'w gwefan neu e bostiwch Confuciusinstitute@bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2012