Sefydliad Confucius yn ymuno 芒 Choleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes
Yr haf hwn bydd sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn dod yn rhan o Goleg Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes y brifysgol.
Mae Sefydliad Confucius, Prifysgol 黑料不打烊 a sefydlwyd ym Medi 2012, yn sefydliad canolog amlddisgyblaethol a'i nod yw rhoi cyfle i bobl gogledd Cymru gael blas ar ddiwylliant ac iaith Tsieina a dysgu mwy amdanynt. Mae Sefydliad Confucius Prifysgol 黑料不打烊 yn un o 500 sefydliad tebyg ledled y byd. Ar hyn o bryd mae 29 Sefydliad Confucius yn y DU. Mae sefydliad Confucius ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn un o dri ym Mhrifysgolion Cymru (gyda'r ddau arall yng Nghaerdydd a Phrifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant) gyda'r nod o ddod 芒 Chymru a Tsieina yn nes at ei gilydd. Trwy'r sefydliad mae pobl, cymunedau, busnesau a sefydliadau yng ngogledd Cymru yn cael cyfle i ddod i ddeall Tsieina fodern a chlasurol.
Mae Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes yn dwyn ynghyd ystod o ddisgyblaethau academaidd cysylltiedig mewn chwe Ysgol Academaidd i gyflwyno cyrsiau ac ymchwil o'r ansawdd uchaf ac mae hefyd yn gartref i'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS), gan ddarparu cyrsiau iaith Saesneg a sgiliau astudio i fyfyrwyr rhyngwladol ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
Mae dod 芒'r Coleg a Sefydliad Confucius ynghyd yn rhoi cyfle gwych i ddatblygu ac ehangu'r bywyd creadigol, deallusol a diwylliannol bywiog ym Mhrifysgol 黑料不打烊.
AYn 么l, Dr Lina Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius, 鈥淓rs ei sefydlu mae Sefydliad Confucius wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth 芒 holl ysgolion y coleg ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i gynyddu a dyfnhau鈥檙 cysylltiadau addysgol, cyfnewidiadau diwylliannol a chydweithredu mewn ymchwil.鈥 Meddai, 鈥淩ydym yn gyffrous i fod yn rhan o d卯m academaidd mor egn茂ol ac ymroddedig a gobeithiwn y gallwn helpu i wneud y coleg yn fwy amlwg trwy ein rhwydwaith o ysgolion a cholegau sydd wedi sefydlu partneriaeth ledled gogledd Cymru. Rydym yn croesawu鈥檔 gynnes yr holl staff a myfyrwyr a hoffai ehangu eu gwybodaeth a鈥檜 profiad o iaith a diwylliant Tsieina ac sy鈥檔 dymuno dysgu mwy am ein gwersyll haf a rhaglenni ysgoloriaeth.鈥
"Rydym yn falch iawn bod Sefydliad Confucius yn ymuno 芒鈥檙 coleg,鈥 meddai鈥檙 Athro Andrew Edwards, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes. 鈥淏ydd yr uno hwn yn caniat谩u inni weithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Sefydliad yn y dyfodol wrth iddo barhau i hyrwyddo'n llwyddiannus diwylliant, iaith a threftadaeth gyfoethog Tsieina yn y rhanbarth hwn. Gyda datblygiad y radd Tsiein毛eg newydd ac ychwanegu'r Ganolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor i'r coleg yn y blynyddoedd diwethaf, edrychwn ymlaen at weithio gyda Lina a'r t卯m wrth i ni barhau i wella ein proffil rhyngwladol.鈥
I gael rhagor o newyddion a gwybodaeth am ddigwyddiadau yn Sefydliad Confucius, ewch i'n gwefan:
Dyddiad cyhoeddi: 1 Awst 2019