Sefydliad Iechyd y Byd yn dod i gynhadledd ar y dici芒u yn yr Ysgol Cemeg
O鈥檙 chwith i'r dde: Yr Athro Mark Baird, Dr Mark Pitts, Prifysgol 黑料不打烊; Ivor Langley, Uned Glefydau Trofannol, Ysgol Feddygaeth Drofannol Lerpwl; Dr Chris Gwenin, Prifysgol 黑料不打烊; Dr Edward Guy, Iechyd Cyhoeddus Cymru; Sally Williams, Dr Martin VordermDaeth gwyddonwyr, swyddogion llywodraeth a chynrychiolwyr o Sefydliad Iechyd y Byd i Ysgol Cemeg Prifysgol 黑料不打烊 i gymryd rhan mewn cynhadledd ar brofi a chanfod y dici芒u yn ddiweddar.
Mae'r gr诺p ymchwil electrogemeg a biosynwyryddion, dan arweiniad Dr Chris Gwenin, yn arbenigo ym maes technoleg synwyryddion. Cafodd y gr诺p gyllid gan gyfadran rhyngwyneb bioleg cemeg Cymdeithas Frenhinol Cemeg i gynnal y gynhadledd, y cyntaf o'i bath yng Nghymru. Daeth gwyddonwyr ac arbenigwyr llywodraeth ynghyd yn y gynhadledd i roi cyflwyniadau ar wahanol agweddau ar y dici芒u, yn cynnwys profi a thrin y clefyd mewn pobl ac anifeiliaid a'r cyfyngiadau sy'n wynebu ffermwyr, clinigwyr, llywodraethau a gwyddonwyr.
Dywedodd Dr Gwenin, "Dyma'r tro cyntaf inni ddod 芒 gr诺p mor amrywiol o arbenigwyr ynghyd ac mae pob siaradwyr wedi trafod thema wahanol yn ymwneud 芒 chynllunio a defnyddio synwyryddion. Rhoddodd y gynhadledd drosolwg holistig ar y problemau mae'r clefyd hwn yn ei achosi gan gynnig syniadau i gydweithio arnyn nhw yn y dyfodol a digon o bethau i'r arbenigwyr gnoi cil arnyn nhw ar 么l y digwyddiad. Roedd y gynhadledd mor llwyddiannus fel ein bod yn gobeithio ei gwneud yn ddigwyddiad blynyddol."
Bydd y digwyddiad yn galluogi'r Ysgol Cemeg i barhau i feithrin y dechnoleg newydd hon er mwyn datblygu dyfeisiadau unigryw sy'n gallu rhoi diagnosis o glefydau mycobacteraidd yn ddi-oed, yn cynnwys y dici芒u.
Mae'r brifysgol wedi cyflwyno nifer o geisiadau patent yn y maes hwn ac mae'n chwilio am bartneriaid ym maes iechyd cyhoeddus a diagnosteg er mwyn parhau 芒'r ymchwil ac ystyried y posibiliadau masnachol.
Dyddiad cyhoeddi: 2 Gorffennaf 2013