Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol 黑料不打烊
Dyfarnwyd dros 300 gradd i fyfyrwyr yn y seremoni raddio鈥檙 gaeaf Prifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar.
Yn ystod y seremoni llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes, yr holl raddedigion, a diolchodd y rhieni, teuluoedd a chyfeillion y graddedigion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Graddiodd Iwan Wyn Jones, 37, o Gaernarfon gyda rhagoriaeth mewn MSc Busnes gyda Seicoleg Defnyddiwr. Dyma鈥檙 ail dro i Iwan raddio o Brifysgol 黑料不打烊, y tro yma ar 么l deng mlynedd allan o fyd addysg. Bu Iwan yn astudio鈥檔 rhan-amser tra鈥檔 gweithio鈥檔 llawn amser fel Arweinydd Datblygu Prosiectau yng Nghyngor Gwynedd.
Mae gadael sicrwydd swydd fel athrawes yn fenter sydd wedi talu ar ei ganfed i entrepreneur lleol. Yr wythnos hon gall Gaenor Wyn Roberts ychwanegu cael gradd meistr 芒 rhagoriaeth at ei rhestr o lwyddiannau. Daw Gaenor sy'n 46 oed ac sy'n dod o Lanfair Talhaearn, Abergele, graddiodd gydag MA mewn Busnes a Marchnata o鈥檙 Ysgol Busnes.
Graddiodd y fyfyrwraig gyntaf i dderbyn y fwrsariaeth arloesol 'Merched mewn gwyddoniaeth' gyda gradd Meistr mewn Niwroddelweddu gyda chlod arbennig. Graddiodd Elizabeth McManus, 23, o Bolton o鈥檙 Ysgol Seicoleg gyda gradd dosbarth cyntaf BSc Seicoleg gyda Niwroseicoleg ym mis Gorffennaf 2015, mae鈥檙 fwrsariaeth wedi galluogi Elizabeth barhau astudio ar lefel 么l-raddedig. Mae Elizabeth bellach yn astudio doethuriaeth ym Mhrifysgol Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Rhagfyr 2016