Seremoni Raddio'r Gaeaf Prifysgol 黑料不打烊
Dyfarnwyd graddau i dros 400 o fyfyrwyr yn seremoni raddio gaeaf Prifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar.
Yn ystod y seremoni, llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes yr holl raddedigion, a mynegodd ei ddiolch i鈥檞 rhieni, teuluoedd a chyfeillion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Sophie BurgessGraddiodd Sophie Burgess o Benygroes gyda gradd BN Nyrsio Oedolion. Yn ddiweddar, daeth yn ail yng Ngwobrau Myfyriwr Nyrsio'r Flwyddyn 2017. Mae Sophie wedi cael effaith sylweddol ar sut mae'r Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd yn croesawu eu grwpiau myfyrwyr ac mae'n lladmerydd dros yr iaith Gymraeg. Mae wedi helpu i ddatblygu Project Hyrwyddwyr y Gymraeg sy'n cael ei arwain gan fyfyrwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae hi wedi cymryd rhan weithgar wrth hyrwyddo gyrfaoedd nyrsio yng Nghymru gydag ymgyrch 'Gwlad, Gwlad. Hyfforddi, Gweithio, Byw ', Deoniaeth Cymru/GIG Cymru.
Meddai Sophie: "Rwy'n falch iawn fy mod yn graddio heddiw, ac rwyf wedi mwynhau fy amser ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Rwyf wedi cael nifer o brofiadau gwerthfawr yma 鈥 roedd cyrraedd rownd derfynol Gwobr Myfyrwyr Nyrsio'r Flwyddyn CBN 2017 yn gamp, ond roedd dod yn ail a chael y braint o dderbyn gwobr ymhlith fy narlithwyr a nyrsys ysbrydoledig yn anrhydedd. Camp bersonol, felly, ond rwyf fwyaf diolchgar bod fy mrwdfrydedd i godi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg o fewn Gofal iechyd a chefnogi myfyrwyr nyrsio wedi derbyn sylw. Rwyf wedi cael yr amser gorau ym Mhrifysgol 黑料不打烊 a hoffwn diolch yn fawr iawn i fy nhiwtor personol a darlithwyr Campws 黑料不打烊 am eu cefnogaeth aruthrol. Rwy鈥檔 gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli myfyrwyr eraill i fanteisio ar yr holl gyfleoedd gwych sydd ar gael ac i wneud gwahaniaeth.鈥
Michael HowardCafodd Michael Howard, sy鈥檔 wreiddiol o Glan Conwy, radd Meistr yn y Gyfraith gyda rhagoriaeth a hefyd derbyniodd y wobr 鈥榤yfyriwr gorau鈥 ar y rhaglen LLM Y Gyfraith.
Meddai Michael: "Rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu parhau i astudio鈥檙 gyfraith ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Daw fy nhad yn wreiddiol o Dreborth, a ges i fy magu yn Nyffryn Conwy. Prifysgol 黑料不打烊 oedd y dewis amlwg ar gyfer y cwrs LLM gyda nifer o academyddion blaenllaw ac ystod eang o arbenigeddau yma. Mae gan y Brifysgol gysylltiadau cymunedol cryf ac mae'n hyrwyddo ethos o hunan-welliant. Mae 黑料不打烊 yn ddinas gwirioneddol hardd, wedi ei gosod rhwng y m么r a鈥檙 mynyddoedd. Yn ystod y cwrs, cefais y cyfle i fynychu鈥檙 cyfarfod bwrdd crwn Cyfraith Eiddo Deallusol cyntaf ac yr wyf wedi mwynhau ystod eang o ddarlithoedd gan academyddion a fu鈥檔 ymweld 芒 黑料不打烊, yn ogystal 芒 manteisio ar y cyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol sydd ar gael yma. Yn y man, byddaf yn cychwyn ar radd PhD ym maes Cyfraith Eiddo Deallusol dan oruchwyliaeth Dr Mark Hyland. Bydd fy noethuriaeth yn archwilio'r rhyngwyneb cymhleth rhwng y Gyfraith Eiddo Deallusol a'r Gyfraith Gystadleuaeth, sy鈥檔 thema hynod flaengar."
Elinor SmithYn chwech oed, collodd Elinor Smith o Wrecsam ei thad. Pan yr oedd yn h欧n, penderfynodd ddilyn gyrfa nyrsio. Heddiw, mae hi'n graddio gyda Gradd BN Nyrsio Oedolion. Meddai: "Rwy'n falch iawn o fod yn graddio heddiw, gan fy mod wedi cael fy ysbrydoli i fod yn nyrs ar 么l cael cefnogaeth gan Hosbis T欧'r Eos pan yn blentyn, i'm helpu i ddelio 芒 marwolaeth sydyn fy nhad." Mae Elinor nawr yn gweithio yn Ysbyty Orthopaedig Robert Jones ac Agnes Hunt, Gobowen.
Eilir JonesDerbyniodd Eilir Jones o Langefni MA mewn Gwaith Cymdeithasol. Meddai: 鈥淩wy鈥檔 falch iawn i fod yn graddio heddiw ar 么l cyfnod pleserus yn astudio ym Mhrifysgol 黑料不打烊.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2017