Seremoni Raddio y Gaeaf Prifysgol 黑料不打烊
Dyfarnwyd dros gant ac ugain gradd 么l-raddedig i fyfyrwyr yn y seremoni raddio gyntaf i鈥檞 chynnal yn y gaeaf ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar.
Yn ystod y seremoni llongyfarchodd Yr Athro John G Hughes, yr holl raddedigion, a diolchodd yr holl rieni, teuluoedd a chyfeillion y graddedigion am gefnogi'r myfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau.
Roedd Ian Roberts, 46, o'r Felinheli, nid yn unig yn graddio gyda MBA mewn Rheolaeth gyda rhagoriaeth, ond hefyd yn ennill gwobr myfyriwr blwyddyn olaf 么l-raddedig gyda'r perfformiad gorau mewn busnes, rheolaeth neu farchnata.
Gyda gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant Lletygarwch, TG a Bancio ym Mhrydain a thramor, wrth wynebu colli ei swydd, penderfynodd Ian i ddychwelyd adref i astudio cwrs MBA. Ychydig fisoedd ar 么l cychwyn y cwrs, cafodd ddiagnosis o ganser datblygedig y brostad.
Dywedodd Ian:
"Nid yw cael salwch terfynol yn fy niffinio; rwy'n edrych ymlaen i鈥檙 driniaeth ddod i ben er mwyn i mi fynd yn 么l i'r gwaith a gwneud gwahaniaeth. Rwy'n hynod o ddiolchgar am y gefnogaeth yr wyf wedi ei gael gan fy nheulu a ffrindiau, ac rwyf wrthi鈥檔 meddwl am beth i'w astudio nesaf. Mae'r MBA ym Mangor wedi fy natblygu i feddwl yn feirniadol a bydd hyn yn rhoi mwy o hygrededd i mi yn y farchnad swyddi. Rwy'n edrych ymlaen at gael defnyddio fy sgiliau newydd i ddatrys problemau yn y byd busnes."
Enillodd , 47, o Gyffordd Llandudno, Conwy MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol gyda rhagoriaeth o Ysgol Busnes 黑料不打烊, ynghyd 芒 Gwobr Magnox, werth 拢200, am y myfyriwr gorau ar y cwrs trwyddo draw.
Treuliodd Alex fwy na 17 flynedd fel peiriannydd strwythurol, yn gweithio i beiriannydd ymgynghorol ar brojectau megis Parc Eirias ym Mae Colwyn a Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Prifysgol 黑料不打烊. Yn ystod y dirwasgiad diwethaf, roedd rhaid i鈥檙 cwmni gau鈥檙 swyddfa ranbarthol yn Llandudno, felly, er mwyn cystadlu mewn gweithle sy鈥檔 newid yn barhaus, penderfynodd Alex astudio ar gyfer BSc (Anrh) mewn Rheoli Adeiladu ym Mhrifysgol Glynd诺r, Wrecsam, lle cafodd anrhydedd Dosbarth Cyntaf gyda rhagoriaeth.
Yngl欧n 芒鈥檌 benderfyniad i astudio, ac am ei gyfnod ym Mhrifysgol 黑料不打烊, dywedodd Alex:
鈥淢ae gan Brifysgol 黑料不打烊 enw rhagorol, yn enwedig o ran perfformiad academaidd ei hysgolion Amgylchedd a Busnes. Mae鈥檙 MBA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn cyfuno nodweddion gorau鈥檙 ddwy Ysgol hyn ac yn rhoi profiad dysgu cytbwys sy鈥檔 gweddu i鈥檙 dim i ddiwydiant modern.
鈥淓rs cwblhau'r MBA, rwyf wedi derbyn cynigion diddorol iawn gan gwmn茂au lleol, felly bydd yn rhaid i ni aros i weld ...鈥
Graddiodd s, sy鈥檔 22 oed o Fangor ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, gyda MRes mewn Rheoli a Chyfrifeg yn Ysgol Busnes 黑料不打烊.
Dywedodd Emma: "Er fy mod wedi mwynhau cwblhau鈥檙 radd 么l-radd, roedd yn heriol iawn, felly mae'n deimlad gwych cael gorffen. Rwyf newydd ddechrau astudio doethuriaeth yn yr Ysgol Busnes, felly bydd hynny'n fy nghadw鈥檔 brysur am dair blynedd arall! Ar 么l hynny, rwy鈥檔 gobeithio aros yn y byd academaidd a dilyn gyrfa yn ymchwilio a darlithio."
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015