Seren Opera Rhyngwladol yn derbynanrhydedd gan Brifysgol 黑料不打烊
Bryn Terfel ar fin derbyn Gradd er Anrhydedd Prifysgol 黑料不打烊
Mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi gwobrwyo鈥檙 seren opera rhyngwladol, Bryn Terfel CBE, gyda Doethuriaeth er Anrhydedd am ei gyfraniad i gerddoriaeth.
Mae鈥檙 cawr cerddorol o Wynedd wedi llwyddo i gymryd saib o鈥檌 amserlen brysur i ymweld 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 i dderbyn y wobr anrhydeddus. Mae'ry canwr, sydd wedi ennill gwobrau Grammy, Classical Brit a Gramophone yn ystod ei yrfa hyd yma, wedi mynychu seremoni arbennig yn y Brifysgol heddiw (Dydd Mawrth 28 Chwefror 2012).
Meddai Bryn Terfel, 鈥淢ae鈥檔 anrhydedd enfawr cael derbyn y Ddoethuriaeth yma mewn Cerddoriaeth gan Brifysgol 黑料不打烊. Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i fwynhau gyrfa amrywiol yn y byd cerddorol ac mae cael anrhydedd yn brofiad gostyngedig iawn. Wrth edrych ar anrhydeddon diweddaraf Prifysgol 黑料不打烊, mae鈥檔 fraint cael ymuno 芒 rhestr o unigolion talentog sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i鈥檞 meysydd penodol nhw. Dwi mewn cwmni da iawn.鈥
Ychwanega Dr David Roberts, Ysgrifennydd a Chofrestrydd Prifysgol 黑料不打烊, 鈥淗eb os, Bryn Terfel yw un o lysgenhadon mwyaf adnabyddus Cymru a鈥檙 canwr opera gorau i鈥檙 wlad erioed cynhyrchu. Mae鈥檙 Brifysgol yn falch iawn o allu gwobrwyo unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig i fyd cerddoriaeth 鈥 ac wrth wneud hynny yn rhoi Cymru a Gwynedd ar y map.鈥
Mae gyrfa Bryn Terfel wedi cyrraedd yr uchelfannau yn ystod y blynyddoedd diwethaf wrth iddo serennu mewn cynyrchiadau gan gynnwys Falstaff a Die Meistersinger von N眉rnberg a pherfformio mewn rhai o dai opera gorau鈥檙 byd. Ond fe ddechreuodd ei yrfa fel plentyn yn cystadlu ar lwyfannau Eisteddfodau鈥檙 Urdd a鈥檙 Genedlaethol cyn symud ymlaen i astudio yn Ysgol Gerddoriaeth Guildhall yn Llundain.
Dyma鈥檙 eildro yn unig i鈥檙 Brifysgol gwobrwyo Graddau er Anrhydedd. Cafodd y rhai cyntaf eu cyflwyno i鈥檙 Archesgob Desmond Tutu, Sir David Attenborough, Rhodri Morgan a Sir John Meurig Thomas i ddathlu pen-blwydd y Brifysgol yn 125 n么l yn 2009.
Gwyliwch ran o'r Seremni a cyfweliad efo Bryn Terfel yma:-
mae lluniau o'r digwyddiad i'w gweld
Dyddiad cyhoeddi: 28 Chwefror 2012