Shakespeare yn Gymraeg yn Theatr y Globe
Ar ddydd Sul 22 Ebrill lansiodd Theatr y Globe yn Llundain yr 诺yl 鈥楪lobe to Globe鈥 drwy gynnal Sul y Sonedau, pan aed ati am gyfnod marathonaidd o chwe awr i ddatgan y 154 o sonedau a briodolir i Shakespeare mewn oddeutu 25 o ieithoedd gwahanol. Cafodd soned 104 ei haddasu i鈥檙 Gymraeg gan yr Athro Peredur Lynch o Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊 a鈥檌 hadrodd gan yr actor Owain Arthur sydd yn ymddangos ar hyn o bryd yn y sioe One Man, Two Guvnors yn y West End. Ymhlith yr ieithoedd eraill a glywyd yr oedd Somalieg, Cr茂eg, Rwmaneg, Swedeg, Flemeg, Hwngareg, Gaeleg, Ffarsi, Islandeg, Bwlgareg, Arabeg a Latfieg.
Er bod y soned Shakespearaidd yn fesur sydd wedi hen ymsefydlu yn y Gymraeg, roedd addasiad yr Athro Lynch yn seiliedig ar fesur y cywydd, un o ffurfiau traddodiadol y canu caeth ac elfen amlwg iawn mewn barddoniaeth Gymraeg yn ystod oes Shakespeare ei hunan. Yn 么l yr Athro Lynch, 鈥淥s bu i Shakespeare erioed glywed barddoniaeth Gymraeg yn cael ei datgan, mae yna bosibilrwydd cryf mai鈥檙 cywydd fyddai鈥檙 mesur鈥.
Sonnet 104
To me fair friend you never can be old,
For as you were when first your eye I eyed,
Such seems your beauty still: three winters cold,
Have from the forests shook three summers' pride,
Three beauteous springs to yellow autumn turned,
In process of the seasons have I seen,
Three April perfumes in three hot Junes burned,
Since first I saw you fresh which yet are green.
Ah yet doth beauty like a dial hand,
Steal from his figure, and no pace perceived,
So your sweet hue, which methinks still doth stand
Hath motion, and mine eye may be deceived.
For fear of which, hear this thou age unbred,
Ere you were born was beauty's summer dead.
Professor Lynch鈥檚 adaption reads as follows:
Nid wyf yn dy weled di
Un ennyd mewn penwynni.
Yn harddwych, lle y cerddi,
Tu hwnt i henaint wyt ti.
Ond fe ddaeth tro鈥檙 tymhorau
Wedi awr ein serch ni鈥檔 dau.
Aeth tri haf yn aeaf oer
A鈥檜 hwyrnosau鈥檔 farn iasoer.
Fe ddaeth tri hydref gan ddwyn
Trwy gynnwrf ein tri gwanwyn,
A Mehefin i grino
Irder iach Ebrill ar dro.
Yn araf, araf, o hyd
Ni welaf 鈥 fy anwylyd 鈥
Ddafn r么l dafn, dy harddwch di
Yn dy w锚n yn dihoeni,
A鈥檔 heinioes yn ronynnau
O dywod rhwng dwylo dau
Ai twyll w锚l y llygaid hyn?
A dreisiwyd hud y rhosyn?
Chwithau鈥檙 rhai sydd yma i ddod,
Ofer, ofer eich dyfod
A bydd cyn eich dod i鈥檙 byd
Eich hafau yn llwch hefyd.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ebrill 2012