Shiromini Satkuranajah
Ar 么l dod i wybod am sefyllfa Shiromini ddiwedd yr wythnos ddiwethaf, mae Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊 wedi ysgrifennu at y Swyddfa Gartref i ofyn am i Shiromini Satkunarajah gael aros yn y DG er mwyn cwblhau ei hastudiaethau.
Ein barn ni yw y dylai gael parhau 芒鈥檌 hastudiaethau ym Mhrifysgol 黑料不打烊, a hynny er lles y fyfyrwraig. Mae鈥檙 Brifysgol wedi bod mewn cyswllt 芒 Shiromini i鈥檞 sicrhau ein bod yn ei chefnogi a鈥檔 bod yn dymuno鈥檔 fawr ei gweld yn cwblhau ei chwrs gradd.
Mewn datganiad a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, meddai Dr Iestyn Pierce, Pennaeth Ysgol Peirianneg Electronig ym Mhrifysgol 黑料不打烊: 鈥淢ae Shiromini Satkuranajah ymhlith y gorau o fyfyrwyr yr Ysgol Peirianneg Electronig ac wedi llwyddo 芒 marciau uchel iawn yn ei harholiadau ym mis Ionawr. Yn ystod y blynyddoedd ers i mi ei hadnabod, mae wedi dangos yn glir ei bod yn alluog ac yn ddiwyd wrth ei gwaith ac mae wedi cyfrannu鈥檔 werthfawr at yr Ysgol a鈥檙 Brifysgol, gan gynnwys cadeirio cangen leol yr Institute of Electrical and Electronics Engineers.
鈥淢ae wedi cofrestru ar gwrs pedair blynedd MEng, a bellach ond ag ychydig wythnosau nes cwblhau ei thrydedd blwyddyn a fyddai鈥檔 rhoi鈥檙 opsiwn iddi raddio yr haf yma 芒 gradd BEng. Does gen i ddim amheuaeth na fyddai 鈥 boed ei bod yn graddio 芒 BEng neu MEng 鈥 yn sicrhau gradd yn y dosbarth cyntaf.
鈥淧e byddai鈥檔 cael graddio, byddai Shiromini yn sicr o fod yn aelod gwerthfawr o unrhyw weithlu mewn maes sydd 芒 phrinder byd-eang o raddedigion. Heb os, pe byddai鈥檔 cael parhau 芒鈥檌 hastudiaethau, gall Shiromini gyfrannu at gymdeithas mewn meysydd megis ynni carbon-isel, cyfathrebu a thechnolegau amgylcheddol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 27 Chwefror 2017