Siaradwyr o Fri yng Nghynhadledd Terminoleg a Chyfieithu TILT
Dydd Iau y 12fed o Fehefin bydd cynhadledd undydd ar gyfer ymarferwyr a myfyrwyr cyfieithu yn digwydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn gysylltiedig gyda鈥檙 rhaglen hyfforddi TILT. Mae TILT yn cynnig hyfforddiant iaith a chyfieithu i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Ngogledd a Gorllewin Cymru. Gall cyfieithwyr a swyddogion iaith astudio鈥檔 rhan amser ac o bell ar gyfer Tystysgrif 脭l-raddedig mewn Cyfieithu, a gall y credydau hyn gyfrif tuag at radd Meistr yn y pwnc.
Bydd y gynhadledd hon yn agored ar gyfer y rhai sy鈥檔 cymryd rhan yn y cwrs presennol, ond hefyd ar gyfer unrhyw un fyddai 芒 diddordeb mewn cymryd rhan yn y cwrs, myfyrwyr y brifysgol, a chyfieithwyr wrth eu gwaith. Ceir mwy o fanylion am y gynhadledd ar wefan .
Ymhlith y siaradwyr gwadd yn y gynhadledd mae Anna-lena Bucher, sydd newydd ymddeol fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Canolfan Termau Llywodraeth Sweden. Hefyd yn siarad bydd Chris Cox, Cadeirydd Pwyllgor Safonau Cyfieithu ISO, a Doug Lawrence, arbenigwr ar Gyfieithu a Busnes Rhyngwladol.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous ond heriol i鈥檙 diwydiant cyfieithu, a bydd y gynhadledd yn gyfraniad amserol i鈥檙 drafodaeth ar y ffordd ymlaen.
Mae TILT yn broject ar y cyd rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a Phrifysgol Abertawe. Caiff ei arwain gan Uned Technolegau Iaith (UTI) Canolfan Bedwyr, mewn partneriaeth gyda鈥檙 Ysgol Ieithoedd Modern, a Chymraeg i Oedolion, ym Mhrifysgol 黑料不打烊. Noddir TILT gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen ESF yr Undeb Ewropeaidd fel rhan o鈥檜 Rhaglen Dysgu Seiliedig ar Waith.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mehefin 2014