Siarter Bwyd Lleol i Wynedd a M么n
Mae Prifysgol 黑料不打烊 yn cydweithredu 芒 dau awdurdod lleol drwy gynnal gweithdy lefel uwch i Fwrdd Rheoli Gwasanaethau Lleol Gwynedd a M么n a chynrychiolwyr y sector bwyd lleol, gan gynnwys busnesau bwyd lleol.
Bydd y gweithdy, a drefnwyd ar y cyd gan Ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol 黑料不打烊, Fforwm Bwyd Cyngor Gwynedd a Gwynedd Gynaliadwy, yn canolbwyntio ar hybu, darparu a defnyddio bwydydd sydd wedi eu cynhyrchu鈥檔 lleol a bwydydd organig yng Ngwynedd a M么n. Cyllidir y cyfarfod ar 6 Mehefin gan Better Organic Business Links, Canolfan Organig Cymru, Llywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
Gwahoddir busnesau allweddol, pobol yn y sector cyhoeddus sydd yn bwriadu prynu mwy o fwydydd iachus, a鈥檙 sector gwirfoddol sydd yn ymwneud 芒 thlodi bwyd ac ymgyrchoedd iechyd, i ymuno ag ymgyrch Siarter Bwyd Lleol Gwynedd a dod i鈥檙 cyfarfod. Nod y Siarter yw annog pobl yng ngogledd Cymru i ystyried dewis a thyfu bwyd yn lleol. Bydd hyn yn dod 芒 buddiannau i鈥檞 ganlyn, boed yn rhai uniongyrchol neu anuniongyrchol; er enghraifft, drwy gynnal darpariaeth fwy diogel, hir dymor o fwydydd lleol iach a fforddiadwy. Mae鈥檙 Siarter hwn yn un o ddau o鈥檙 fath yn unig yng Nghymru, a鈥檙 unig siarter gwledig ar raddfa ardal awdurdod lleol.
Cynhelir y cyfarfod am 10.30 ddydd Iau 6 Mehefin yn Adeilad Thoday, Prifysgol 黑料不打烊 , Ffordd Deiniol, 黑料不打烊. Bydd y cyfarfod, a fydd yn parhau tan 1.00, yn agor gyda chyflwyniadau byr ond llawn gwybodaeth gan ymgyrchwyr bwydydd lleol, Ben Gregory o Wynedd a Steve Garret o gymuned Riverside yng Nghaerdydd - cydweithio addysgol gwirioneddol rhwng de a gogledd Cymru.
Dilynir hyn gan weithdy a fydd yn dod 芒 chanlyniadau ymarferol i鈥檙 diwydiant bwyd lleol yng nghymunedau ardal y Brifysgol. Gofynnir i'r rhai sydd am ddod i鈥檙 digwyddiad gysylltu 芒鈥檙 trefnwyr drwy e-bost m.furlong@bangor.ac.uk cyn gynted ag y bo modd i sicrhau lle a chinio.
Fel hyn yr eglurodd Dr Eifiona Thomas Lane, Cyfarwyddwr graddau Datblygiad Cynaliadwy a darlithydd Daearyddiaeth yn ysgol Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淏ydd cefnogi twf ein heconomi fwyd leol a鈥檔 treftadaeth yng Ngwynedd a M么n o fantais fawr i gynaladwyedd lleol, gan gynnwys ansawdd bywyd. Mae sicrhau bod ein cymunedau, yn enwedig yr aelodau h欧n ac iau, yn medru mwynhau bwydydd lleol naturiol, ffres, iachus a fforddiadwy, sydd wedi eu cynhyrchu i鈥檙 safon uchaf o ran diogelwch ac ansawdd, yn golygu gwell siopa bwyd yn lleol, gwell profiad o fwyta allan, a chyflenwad o fwyd diogel, iachus y mae gennym ffydd ynddo.鈥
Meddai Cerys Humphreys, Cydlynydd Fforwm Bwyd Gwynedd: 鈥淒rwy hybu gweithgareddau cynhyrchu bwydydd lleol, gallwn wella iechyd a lles pobol ein sir. Gall cynhyrchu a phrynu bwyd sydd yn gynaliadwy, gyfrannu at yr economi gan hybu mentrau newydd a chynyddu nifer y swyddi ym maes bwyd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 4 Mehefin 2013