Sioe agoriadol Pontio ddim yn cael ei llwyfannu yn y flwyddyn newydd
Yn dilyn y cyhoeddiadau diweddar yngl欧n 芒'r oedi i agoriad Pontio, mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi cyhoeddi na fydd hi'n bosibl llwyfannu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Chwalfa yn y flwyddyn newydd fel y gobeithiwyd.
Meddai Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G. Hughes:
"Yn dilyn trafodaethau manwl gyda'r contractwr a gyda Theatr Genedlaethol Cymru mae wedi dod i'r amlwg ei bod yn annhebygol y bydd yr adeilad wedi ei orffen mewn pryd i ni lwyfannu Chwalfa fis Chwefror fel oeddem wedi gobeithio.
"Rwyf wedi cymryd y penderfyniad anodd a phoenus i ganslo Chwalfa er ein bod yn parhau i weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru i ddod a drama Gymraeg o ansawdd uchel i Pontio yn y dyfodol.
"Rwyf yn sylweddoli fod y newydd yma yn siom enfawr ond oherwydd yr oedi yn y gwaith adeiladu, does gennym ddim dewis arall. Rydym yn ymddiheuro'n daer i'r cast, y criw a'n cynulleidfa, ac rydym yn rhannu'r siom.
"Bydd staff swyddfa docynnau Pontio mewn cysylltiad uniongyrchol a chwsmeriaid er mwyn trefnu ad-daliad.
"Rydym r诺an yn mynd trwy broses o adolygiad manwl gyda'r contractwr, Miller, er mwyn sicrhau amserlen ddiwygiedig ar gyfer agor y ganolfan.
"Ein blaenoriaeth yw gweithio a'r gyflawni'r adeilad a darparu rhaglen artistig agoriadol o safon uchel. Fel y bydd y gwaith adeiladu yn datblygu byddwn yn gwneud cyhoeddiadau pellach."
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru:
鈥淢ae鈥檔 siom fawr i mi ac i鈥檙 cwmni na fydd modd i ni lwyfannu Chwalfa yn y flwyddyn newydd. Daw hyn ar 么l misoedd o waith paratoi, a nifer ohonom - yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal 芒 thrigolion yr ardal - wedi gweithio鈥檔 ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol. Byddwn ni a Pontio yn archwilio pob cyfle posibl i lwyfannu鈥檙 gwaith yn y dyfodol. Yn anffodus, nid oedd modd derbyn sicrwydd y byddai Theatr Bryn Terfel yn barod i ni allu gwneud hynny yn y flwyddyn newydd. Byddwn felly鈥檔 parhau 芒鈥檔 trefniadau i lwyfannu cynhyrchiad arall yn y flwyddyn newydd.
鈥淗offwn ddiolch i drigolion yr ardal am y croeso a鈥檙 gefnogaeth a gawsom. Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd cyn gynted fyth ag y bydd modd. Rydym hefyd yn dymuno pob llwyddiant i Pontio wrth iddyn nhw baratoi i agor eu drysau, ac edrychwn ymlaen at ymweld 芒鈥檙 ganolfan gyda chynyrchiadau lu yn y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 6 Hydref 2014