Sir Roger Casement- Yr Arwr Olaf
Ar ddydd Gwener y Groglith 1916 'roedd Roger Casement wedi glanio yn yr Iwerddon o long danfor Almaenig ac wedi ei arestio yn syth. Cyhuddwyd ef o deyrn fradwriaeth yn erbyn y goron ac fe'i crogwyd ym mis Awst 1916.
Bydd darlith Gyhoeddus ym Mhrifysgol 黑料不打烊 am 6.30 Dydd Mercher 19 Hydref yn trafod achos llys y g诺r a鈥檌 cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth- a鈥檙 cyswllt hefyd sy鈥檔 bodoli gyda Phrifysgol 黑料不打烊. Un o'r rhai a fu yn ei amddiffyn yn yr Old Bailey oedd Thomas Artemus Jones, a death yn farnwr blaenllaw, ac mae ei bapurau, gan gynnwys ei nodiadau ar achos Casement, ar gadw yn Archifdy鈥檙 Brifysgol.
Yr Athro Owen Dudley Edwards, hanesydd adnabyddus sy鈥檔 Gymrawd er Anrhydedd mewn Hanes ym Mhrifysgol Caeredin fydd yn traddodi鈥檙 ddarlith ' Rex versus Sir Roger Casement - The Last Hero' ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau, ac mae鈥檙 ddarlith ar agor i bawb. Hon yw'r ddarlith gyntaf o dan nawdd yr Archifdy.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2011