Staff a Myfyrwyr Hanes yn trafod Cynllun Gweithredu鈥檙 Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (NSS)
Dr Gary Robinson, Dr Peter Shapely, Dr Mari Elin Wiliam, Max Zeronian-Dalley a Robert Hamlett-Orme yn y gynhadledd staff/myfyrwyr NSS gyda draft o鈥檙 Cynllun Gweithredu.Ar ddydd Mercher, 9 Hydref cyfarfu staff a myfyrwyr o鈥檙 Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg i drafod canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2013 (NSS). Roedd hyn yn rhan o gynhadledd yng Ngholeg y Celfyddydau a鈥檙 Dyniaethau i ystyried yr NSS, ac i annog Ysgolion i ddatblygu cynllun gweithredu ar y cyd 芒 myfyrwyr.
Y cynrychiolwyr myfyrwyr o鈥檙 Ysgol Hanes oedd Max Zeronian-Dalley (Blwyddyn 2) a Robert Hamlett-Orme (Blwyddyn 3), a buont yn cyfarfod 芒 Dr Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol, ynghyd 芒 Dr Gary Robinson a Dr Mari Elin Wiliam o Bwyllgor Dysgu ac Addysgu鈥檙 Ysgol.
Nododd Dr Shapely: 鈥淗offem ddiolch i Max a Rob am eu mewnbwn gwerthfawr i鈥檙 drafodaeth, ac am leisio awgrymiadau a sylwadau myfyrwyr mor effeithiol. Bydd hyn yn ein galluogi nid yn unig i gynhyrchu Cynllun Gweithredu NSS fydd wedi鈥檌 sianelu at brofiad myfyrwyr, ond mae hefyd yn ein cynorthwyo i gryfhau鈥檙 berthynas gadarn sydd eisoes yn bodoli rhwng staff a myfyrwyr yn yr Ysgol Hanes.
Cafodd yr Ysgol Hanes gyfradd boddhad o 92% yn NSS 2013, oedd yn ein gosod yn 10fed yn y Deyrnas Unedig, a thra ein bod wrth ein boddau gyda hyn, ein ffocws r诺an yw ar wella hyn ymhellach.鈥
Bydd Cynllun Gweithredu NSS yr Ysgol Hanes wedi鈥檌 gwblhau ym mis Tachwedd, a bydd yn cael ei drafod ymhellach gyda chynrychiolwyr myfyrwyr ar hyd y flwyddyn. Yn wir, mae cynlluniau eisoes ar y gweill ar gyfer cael Parti Nadolig staff-myfyrwyr, yn ogystal 芒 sgr卯n wybodaeth yn y corridor Hanes, felly cadwch olwg am ddatblygiadau pellach!
Dyddiad cyhoeddi: 17 Hydref 2013