Staff ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr
Yn dilyn pleidlais gan fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊, rhoddwyd dau o ddarlithwyr ADNODD ar restr fer y Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr yn ddiweddar. Datblygwyd y gwobrau gan Undeb Myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 gyda nawdd gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a鈥檙 Academi Addysg Uwch.
Cyflwynwyd dros 300 o wahanol enwebiadau gan fyfyrwyr ar ran 180 aelod staff gwahanol a oedd yn cynrychioli pob un o ysgolion academaidd y brifysgol Cynhaliwyd y broses enwebu ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Ar 么l y broses enwebu, rhoddwyd a o ADNODD ar y rhestr fer ac roeddent yn y cinio gwobrwyo i dderbyn eu tystysgrifau. Enwebwyd Julia yn y categori myfyrwyr rhyngwladol, roedd ei henwebiad yn nodi "ei chefnogaeth ragorol i 么l-raddedigion rhyngwladol鈥 a鈥檌 gwaith "yn trefnu grantiau, bwrsariaethau ac ysgoloriaethau i fyfyrwyr rhyngwladol鈥. Julia, a ddisgrifiwyd yn ei henwebiad fel darlithydd 鈥渟y鈥檔 ysbrydoli鈥, yw cyfarwyddwr cyrsiau BSc Ecoleg Tir a M么r Gymhwysol a BSc Cadwraeth yr Amgylchedd ADNODD. Wrth dderbyn ei henwebiad, dywedodd Julia "rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy rhoi ar restr fer y gwobrau gwych yma. Cefais fy ysbrydoli gan y noson. Roedd yn wych clywed am y dysgu a鈥檙 gefnogaeth ardderchog sy鈥檔 digwydd yn y brifysgol a sylweddoli cymaint y mae鈥檙 myfyrwyr yn ei werthfawrogi鈥.
Enwebwyd Prysor, sy鈥檔 gyfarwyddwr cyrsiau BSc Gwyddor yr Amgylchedd, BSc Rheoli鈥檙 Amgylchedd a BSc Amaethyddiaeth, Cadwraeth ac Amgylchedd ADNODD, am y wobr werdd. Mae鈥檙 wobr honno鈥檔 鈥渃ydnabod gwaith sy鈥檔 hyrwyddo ac yn cyfrannu at gynaliadwyedd鈥. Dyma oedd wedi ei nodi yn ei enwebiad: 鈥済ofynnwch i Dr Prysor am ei beiriant i ddefaid sy鈥檔 dadelfennu yn Henfaes a byddwch yn gwybod yn syth mai ef ddylai gael y Wobr Werdd! Mae gan Prysor arddull ddysgu difyr a dynamig ac mae'n denu diddordeb pob myfyriwr yn ei ddosbarthiadau ac ar deithiau maes ac mae bob amser yn barod i'ch helpu." Dywedodd Prysor 鈥渞oedd yn wych cael fy enwebu a chael mynd i鈥檙 digwyddiad. Diolch i fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 am eu gwaith caled yn trefnu'r holl beth".
Mae鈥檔 bosib y bydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a鈥檙 Academi Addysg Uwch yn noddi鈥檙 digwyddiad eto ac mae Undeb y Myfyrwyr eisoes yn cynllunio gwobrau'r flwyddyn nesaf. Y gobaith yw y bydd y project hwn yn mynd o nerth i nerth.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012