Staff 黑料不打烊 sy'n darparu Meddygaeth C21 yn y gogledd yn derbyn Cydnabyddiaeth C4ME gan Ysgol Feddygol Caerdydd
Gwahoddwyd myfyrwyr, staff a phartneriaid addysgu Ysgol Feddygol Caerdydd i enwebu eraill i鈥檞 cydnabod am eu cyfraniad eithriadol at brofiad myfyrwyr a GIG 2020. Gallai enwebiadau fod ar gyfer y rhai sydd wedi cyfrannu trwy ddarparu addysgu rhagorol neu ddatblygu arloesedd, cefnogaeth eithriadol i fyfyrwyr neu ddarpar fyfyrwyr, gwasanaeth cyhoeddus, dewrder, cynrychiolaeth ragorol o'r cyrsiau sy'n gysylltiedig ag Ysgol Feddygaeth Caerdydd, cefnogaeth i'r GIG a chyfoethogi profiad y myfyrwyr.
Cydnabuwyd rhagoriaeth Prifysgol 黑料不打烊 wrth gyflwyno gradd Feddygaeth MBBCh C21 gogledd Cymru ac enwebwyd staff hen a newydd am eu hymrwymiad, eu brwdfrydedd a'u dawn. Gallwch wylio fideo fer gan un o'r enwebeion Dr Ffion Williams C21 gogledd Cymru Yn Codi i'r Her a fideo arall gan lywydd MedSoc, sy鈥檔 fyfyriwr ym Mangor, Firas Hamdan, ynghylch sut mae myfyrwyr meddygol 黑料不打烊 C21 wedi Ymdopi 芒 COVID.
Dywedodd Mr Merf Williams, Pennaeth dros dro Ysgol Gwyddorau Meddygol Prifysgol 黑料不打烊 "Mae 黑料不打烊 yn falch o weithio gydag Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd i gyflwyno'r cwrs meddygaeth hwn yn y gogledd a hoffwn ychwanegu fy niolch a鈥檓 llongyfarchiadau i'n myfyrwyr ac i d卯m y rhaglen am yr holl waith caled a鈥檙 gwytnwch y maent wedi'i ddangos mewn cyfnod mor heriol.
Aelod o staff neu d卯m C21 gogledd Cymru (academaidd neu weinyddol)
Enwebeion a'r Rhesymau dros Enwebu
Linda Brayshay
Ymrwymiad a brwdfrydedd rhagorol i efelychu ac addysg feddygol.
Jo Briggs
Ymrwymiad ac ymroddiad eithriadol i'r rhaglen C21nW.
Elinor Chapman
Bob amser yn ddefnyddiol iawn. Yn gyflym i ateb. Yn rhoi adnoddau defnyddiol. Yn gwneud amser i fyfyrwyr.
Yr Athro Dean Williams
Athro eithriadol, bob amser yn barod i helpu a chynnig cymorth arbennig!
Ymrwymiad i addysgu, gwybodaeth a sgiliau clinigol helaeth
Aelod staff gwych i holl fyfyrwyr C21 gogledd Cymru
Ymroddiad i ddatblygu a darparu addysg feddygol 黑料不打烊
Bob amser yn cynnig cymorth arbennig er yr amgylchiadau anodd.
Dr Ffion Williams
Cyfraniad unigol heb ei ail at C21 MBBCh.
T卯m rhaglen C21nW
Gwydnwch ac ymrwymiad mewn amgylchiadau heriol.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2021