Staff Prifysgol 黑料不打烊 yn ennill Tystysgrifau am ddysgu鈥檙 Gymraeg
Staff ac is-raddedigion gyda'u tystysgrifau.Mewn digwyddiad ar y cyd rhwng Prifysgol 黑料不打烊 a Chanolfan Cymraeg i Oedolion Gogledd Cymru, dyfarnwyd tystysgrifau ar gyfer cyflawniadau mewn Cymraeg ail-iaith CBAC a chymwysterau Cymraeg yn y Gweithle i 33 o 么l-raddedigion ac aelodau staff y Brifysgol. Trefnwyd seremoni i ddathlu eu llwyddiant ar ddiwrnod cenedlaethol Shw鈥檓ae S鈥檓ae, yn ddiweddar.
Yn ogystal 芒鈥檙 llwyddiant yn yr arholiadau CBAC, 鈥榬oedd nifer o staff wedi ennill cymhwyster Cymraeg yn y Gweithle fel rhan o gynllun peilot newydd gan y Brifysgol a鈥檙 Ganolfan Cymraeg i Oedolion. Mae鈥檙 cymhwyster yma鈥檔 cynnig cyrsiau Cymraeg sy鈥檔 adlewyrchu gofynion gweithle pob unigolyn. Bydd y profion terfynol wedyn yn cael eu teilwra ar gyfer gofynion unigryw maes gwaith pob aelod o staff. Mae鈥檙 cynllun peilot hwn yn cynnig opsiynau newydd i staff y Brifysgol, a bwriedir adeiladu ar y cynllun hwn yn y dyfodol.
Cyflwynwyd y tystysgrifau gan yr Is-ganghellor, Yr Athro John G Hughes. Ac yntau yn ddysgwr ei hun, cyflwynwyd tystysgrif arholiad CBAC lefel A ail iaith i鈥檙 Is-ganghellor gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Cymraeg i Oedolion y Gogledd, Elwyn Hughes.
Elwyn Hughes (dde) yn cyflwyno'r Is-ganghellor gyda'i dystysgrif.Dywedodd yr Is-ganghellor: Mae datblygu sgiliau Cymraeg staff yn rhan allweddol o鈥檔 hymrwymiad fel Prifysgol i weithredu鈥檔 gwbl ddwyieithog ac yn ganolog i鈥檔 dyhead i gynnal ein safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran y Gymraeg.鈥
Ychwanegodd Elwyn Hughes: 鈥溾橰ydym wir yn gwerthfawrogi bod aelodau staff a myfyrwyr y Brifysgol yn hapus i weithio tuag at gymhwyster yn y Gymraeg, ac yn falch o fedru cynnig digwyddiad fel hwn i ddathlu eu llwyddiant.鈥
Ar hyn o bryd mae dros 100 o aelodau staff Prifysgol 黑料不打烊 wedi cofrestru ar gynlluniau a chyrsiau i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Hydref 2014