Staff y Brifysgol i ddringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer elusen
Mae dwy aelod o staff Prifysgol 黑料不打烊 yn paratoi ar gyfer taith unwaith mewn oes i gofio am fachgen lleol a laddwyd mewn damwain ffordd.
Bydd Emma Wynne-Hughes o Ysgol Busnes 黑料不打烊 a Hazel Frost o鈥檙 Ysgol Seicoleg yn dringo Mynydd Kilimanjaro i godi arian ar gyfer T欧 Gobaith a Chronfa Goffa Darren Rhys.Emma ac Hazel ar eu taith elusennol i fyny鈥檙 Wyddfa yn ddiweddar. Byddent nawr yn wynebu Kilimanjaro er cof mab Hazel
Bu farw mab Hazel, Darren Rhys, ddydd San Steffan 2009 pan gafodd ei daro gan gar wrth seiclo鈥檙 daith 10 milltir o鈥檌 waith yn yr Amwythig i gartref ei dad. Ers hynny, mae Hazel wedi cynnal nifer o weithgareddau codi arian er cof am ei mab 18 oed a oedd yn ffan mawr o sglefrfyrddio ac yn 2011 agorwyd y parc sglefrfyrddio cyntaf ym Mangor i gofio amdano.
Gyda鈥檙 her ddiweddaraf hon bydd Emma a Hazel yn mynd ar daith flinderog 5 diwrnod at gopa Kilimanjaro sy鈥檔 5,895 metr uwch ben y m么r, ac yna dod i lawr o ben y mynydd mewn dau ddiwrnod.
Ar hyn o bryd mae鈥檙 ddwy yn dilyn cynllun hyfforddi llym sy鈥檔 cynnwys cerdded gyda bagiau cefn trwm, mynd i鈥檙 gampfa a throedio mynyddoedd garw Eryri. Cyn iddynt wynebu'r mynydd uchaf yn Affrica, byddant yn cael profion i wneud yn si诺r eu bod yn gallu delio'n gorfforol gyda'r uchder.
"Mae gweld y ffordd ryfeddol y mae Hazel wedi delio gyda鈥檙 ddwy flynedd ddiwethaf wedi fy ngwneud yn benderfynol o dderbyn yr her," meddai Emma, sydd hefyd yn Uwch Warden yn neuaddau preswyl myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊. 鈥淒yma her fwyaf fy mywyd ond dwi鈥檔 si诺r mai hwn fydd y profiad mwyaf gwerthfawr.鈥
Bydd Emma a Hazel yn dechrau ar eu taith 28 Gorffennaf. Os hoffech gyfrannu at D欧 Gobaith er cof am Darren, ewch i
Dyddiad cyhoeddi: 5 Mawrth 2012