Sut mae gwres yn helpu i drin canser
Mae ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi dynodi switsh mewn celloedd a all helpu i ladd tiwmorau gyda gwres. Gellir trin canser y brostad a thiwmorau lleol eraill yn effeithiol trwy gyfuno gwres a chyffur gwrth-ganser sy鈥檔 niweidio鈥檙 genynnau. Y tu 么l i鈥檙 therapi newydd hwn mae鈥檙 gallu anhygoel sydd gan wres i ddiffodd y mecanweithiau goroesi hanfodol sydd mewn celloedd dynol. Er bod thermotherapi yn cael ei ddefnyddio鈥檔 fwy helaeth erbyn hyn, nid yw'r egwyddorion sy'n sail i hyn yn eglur.
Mewn cyhoeddiad diweddar yn y Journal of Cell Science (<http://jcs.biologists.org/content/early/2012/07/10/jcs.104075.abstract>) adroddodd ymchwilwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol bod gwres yn addasu'r systemau goroesi hyn trwy hybu cynhyrchu protein newydd. Yn ddiddorol iawn, nid yw鈥檙 protein hwn yn cael ei gynhyrchu dim ond pan fydd tymheredd uchel yn actifadu genyn sy鈥檔 cuddio tu mewn i enyn arall.
Meddai Dr Thomas Caspari, arweinydd y gr诺p Bioleg Genom, 鈥淢ae鈥檙 darganfyddiad hwn yn ein hatgoffa o ddol Rwsiaidd lle mae set o ffigurau pren bach wedi eu gosod tu mewn i ddol fwy o faint. Gall bodolaeth y genynnau cudd hyn egluro pam bod gan y genom dynol lawer llai o enynnau nag a ddisgwylid yn wreiddiol. Gall ein gwaith hefyd helpu i wella trin canser gyda gwres er lles cleifion. Roedd llwyddiant yr ymchwil hwn o ganlyniad i waith t卯m a wnaed yn bosibl trwy gyllid hael gan Ymchwil Canser Cymru a'r rhaglen Leonardo DaVinci Ewropeaidd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 8 Awst 2012