Sut mae ymchwil gwyddor chwaraeon yn dylanwadu ar ofal meddygol
Mae tair erthygl gan ymchwilwyr o yn ymddangos yn y rhifyn cyfredol , cyfnodolyn rhyngwladol a gyhoeddir gan yr American College of Rheumatology. Mae'r rhifyn diweddaraf yn rhifyn arbennig yn cynnwys 18 erthygl sy'n canolbwyntio ar yr ymchwil arloesol ddiweddaraf ar y cyhyrau a'r esgyrn mewn clefydau gwynegol.
"Mae'r ymchwil rydym yn ei gwneud yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn aml y ffin rhwng Gwyddorau Chwaraeon a Meddygaeth, ac yn rhoi鈥檙 cyfle i ni ddefnyddio egwyddorion gwyddor chwaraeon yn ymarferol at ddefnydd clinigol. Er mwyn cyflawni hyn rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos 芒'r GIG lleol ac yn ddiolchgar iawn am y berthynas gydweithredol sydd rhyngom, " meddai Tim Woodman, Pennaeth yr .
Mae'r erthyglau鈥檔 dangos sut mae ffocws ymchwil yn symud tuag at wella ansawdd bywyd pobl 芒'r cyflyrau hyn, nawr bod triniaethau gwell ar gyfer y clefydau,. Mae'r ymchwil hefyd yn dangos sut gall arbenigedd mewn Gwyddor Chwaraeon a dealltwriaeth fanwl o ewynnau, cyhyrau a sut mae鈥檙 esgyrn yn cydweithio, arwain at welliannau yn y rhaglenni i drin pobl sydd ag arthritis gwynegol a chyflyrau esgyrn eraill.
Mae Dr Jamie Macdonald, awdur un o'r papurau, yn egluro: "Roedd ffocws yr ymchwil a gofal clinigol yn arfer bod ar reoli'r clefyd yn unig. R诺an bod gwell triniaethau i鈥檞 cael a bod cleifion yn byw鈥檔 hirach, canolbwyntir hefyd ar ddarparu ymarfer corff a rhaglenni eraill i alluogi pobl sy鈥檔 dioddef o鈥檙 cyflyrau hyn i gynnal neu wella eu hiechyd presennol a鈥檜 gallu i symud. "
Mae un erthygl, er enghraifft, yn ddilyniant i ymchwil arloesol a wnaed ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac a ddangosodd am y tro cyntaf bod ymarfer corff o fudd i ddioddefwyr arthritis gwynegol. "Y cyngor traddodiadol oedd cymryd gofal a gorffwys. Hefyd, roedd llawer o bobol efo鈥檙 cyflwr yn betrus o wneud ymarfer corff. Bellach, rydym wedi profi bod ymarfer dwys yn fuddiol i bobl sydd 芒'r cyflwr," eglurodd Dr Andrew Lemmey o'r Ysgol.
Mae'r ymchwil ddiweddaraf gan Dr Lemmey a chydweithwyr, a ddisgrifir yn y cyfnodolyn, wedi canfod bod manteision parhaol i鈥檙 rhai a fu鈥檔 gwneud y rhaglen ymarfer fel rhan o鈥檙 ymchwil chwe blynedd ynghynt. Nid oedd y bobl a fu鈥檔 dilyn y rhaglen ymarfer ddwys wedi ennill llawer o bwysau ac roeddent yn symud o gwmpas yn haws nag eraill a gymerodd ran yn yr ymchwil. Fodd bynnag, profodd yr ymchwil hefyd bod angen dal ati gydag ymarfer corff yn gyson i gael y budd mwyaf i'r cyhyrau.
Mae erthygl sy鈥檔 dilyn achos unigol yn dangos y berthynas waith agos sydd rhwng y Brifysgol a鈥檙 Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn lleol. Galluogodd achos a gyfeiriwyd at y Brifysgol gan y GIG Dr Jeanette Thom a Dr Andrew Lemmey i gymhwyso gwybodaeth gwyddoniaeth chwaraeon er mwyn gwella pen-glin arthritig. Mae trosglwyddo manteision y wybodaeth honno i鈥檙 system iechyd leol, a rhoi sylw i鈥檙 darganfyddiadau yn yr erthygl, yn sicrhau bod gwybodaeth o鈥檙 fath yn cael ei throsglwyddo i鈥檙 gymuned leol ac ehangach, fel y gall eraill hyrwyddo鈥檙 gwaith ymhellach.
Mae'r drydedd erthygl yn canolbwyntio ar gyflwr nad oes llawer yn ei ddeall, sef osteoporosis mewn dynion, ac ar y cydadwaith rhwng cyhyrau ac esgyrn. Mae'n rhoi tystiolaeth gref bod perthynas rhwng m脿s cyhyr a nerth esgyrn ac yn amlygu cyhyrau fel targed newydd i drin esgyrn gwan mewn modd anuniongyrchol.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Ionawr 2012