Symud o wasanaethau gofal lliniarol i blant i rai i oedolion: mae'r bwlch yn dal yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd i ymdopi ag ef
Yn 么l ymchwil a wnaed gan Brifysgol 黑料不打烊 mae'r gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac i oedolion yn rhy fawr i bobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ymdopi 芒 hwy. Wrth s么n am y darganfyddiadau mae'r ymchwilwyr yn galw ar wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sg么p er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Fe wnaeth y t卯m ymchwil ddod 芒 phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd, rhieni a gweithwyr proffesiynol o wasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion at ei gilydd i rannu eu profiadau o'r newid o wasanaethau plant i rai oedolion.
Yn aml nid oedd cynllunio'r symud o ofal lliniarol plant i un oedolion yn canolbwyntio ar yr unigolyn ifanc a'r hyn roeddent hwy ei eisiau neu ei angen. Nid oedd gan lawer o bobl ifanc 'weithiwr allweddol' neu rywun i'w cefnogi i drefnu'r symud, ac felly roedd yn hawdd i bobl ifanc fynd ar goll a syrthio drwy'r bylchau. Nid oedd y cynlluniau presennol yn rhoi sylw i bethau fel barn y bobl ifanc ar eu poen gyfnewidiol a rheoli symptomau, a newidiadau yn y ffordd roedd y person ifanc yn hoffi neu angen bwyta ac yfed.
Fe wnaeth pobl ifanc a rhieni dynnu sylw hefyd at y gwahaniaethau rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion a sut yr effeithiodd hyn arnynt. Roedd pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd yn gyfarwydd 芒 'chynllunio cyfochrog' lle roedd gwasanaethau gofal lliniarol i blant yn rhoi cefnogaeth holistig, o ddiagnosis ymlaen, i bobl ifanc a'u teuluoedd fedru mwynhau bywyd, yn ogystal 芒 chynllunio ymlaen at ofal diwedd oes pan fyddai ei angen. Dywedodd pobl ifanc bod gwasanaethau gofal lliniarol holistig i'r teulu cyfan, a oedd wedi bod o fudd mawr iddynt yn ystod plentyndod, yn aml yn dod i ben wrth iddynt drosglwyddo i wasanaethau i oedolion. Roedd gwasanaethau gofal lliniarol i oedolion, ar y llaw arall, wedi'u hanelu'n fwy at gyflawni anghenion pobl h欧n yn bennaf, yn dioddef oddi wrth gyflyrau fel canser neu glefyd y galon, wrth iddynt agos谩u at ddiwedd oes. Roedd gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i oedolion yn brofiadol iawn gyda rheoli cyflyrau fel Dystroffi Cyhyrol a symptomau cyffredin fel poen a chyfog, ond nid oeddent mor gyfarwydd 芒 rheoli'r ystod eang o gyflyrau cymharol anghyffredin sy'n bygwth bywyd ac sydd yn dechrau yn ystod plentyndod.
Meddai'r Athro Jane Noyes o Prifysgol 黑料不打烊: 'Roedd dod 芒 gweithwyr proffesiynol gofal lliniarol i blant ac oedolion i gyfarfod 芒 phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u rhieni yn eithriadol werthfawr. Mae gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion wedi datblygu ar wah芒n i'w gilydd gan ddarparu ar gyfer grwpiau gwahanol o bobl. Nid yw'n syndod bod gwasanaethau i oedolion yn cael trafferth i ymwneud 芒 phobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a ddechreuodd mewn plentyndod.'
'Mae pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd ac anghenion gofal lliniarol yn syrthio drwy'r bylchau yn ystod y symud o wasanaethau gofal lliniarol plant i rai oedolion. Mae angen i wasanaethau gofal lliniarol i oedolion i ymestyn eu sg么p er mwyn darparu'n well at anghenion pobl ifanc gyda chyflyrau byrhau bywyd a'u teuluoedd.
Er mwyn codi ymwybyddiaeth ac i helpu i bontio'r bwlch rhwng gwasanaethau gofal lliniarol i blant ac oedolion, cynhyrchodd y t卯m o Brifysgol 黑料不打烊 yr adnoddau canlynol i'w defnyddio gan weithwyr proffesiynol, pobl ifanc a theuluoedd. Mae'r adnoddau ar gael am ddim a gellir eu lawrlwytho o'r lincs isod:
- Mae'r arweinlyfr yn ymdrin 芒'r elfennau o ofal lliniarol a gaiff eu hanghofio'n aml yn ystod yr adeg o symud o ofal plant i oedolion, yn ogystal ag egwyddorion pwysig cynllunio a chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar unigolion. Mae'r arweinlyfr hefyd yn disgrifio swyddogaethau gweithiwr allweddol mewn cyd-destun gofal lliniarol.
- i ddangos pa mor bwysig yw cynllunio'n dda at newidiadau mewn gofal lliniarol o safbwynt pobl ifanc a'u rhieni.
- yn disgrifio'r project a darganfyddiadau allweddol.
Dywedodd Lizzie Chambers, Cyfarwyddwr Datblygu a Chyfarwyddwr Gweithredol yr 鈥楿K Transition Taskforce鈥 yn 鈥楾ogether for Short Lives鈥: 鈥淢ae鈥檙 ymchwil yn tynnu sylw at yr angen brys i adeiladu pontydd cryfion rhwng gwasanaethau plant ac oedolion gyda chyflyrau sy鈥檔 byrhau bywyd. Mae鈥檙 Tasglu wedi ymrwymo i wneud i hyn ddigwydd ar draws y Deyrnas Unedig fel bod pobol ifanc yn medru byw eu bywydau i鈥檙 eithaf. Rydym yn croesawu鈥檙 adnoddau hyn a fydd o gymorth i fudiadau gydweithio i ddatblygu gwasanaethau sydd 芒 phobol ifanc yn ganolbwynt iddynt.鈥
Cyllidwyd yr astudiaeth 'Bridging the Gap' gan Together for Short Lives, elusen ar draws y DU sy鈥檔 cefnogi plant, pobl ifanc a鈥檜 teuluoedd sy鈥檔 byw gyda chyflyrau sy鈥檔 cyfyngu bywyd ac yn bygwth bywyd.
Mae鈥檙 ffilm, adroddiad, arweinlyfr a bocs offer ar gael drwy ddilyn y ddolen at adnoddau ar wefan neu ar wefan project
Dyddiad cyhoeddi: 21 Hydref 2014