Taith i鈥檙 Unol Daleithiau i s诺olegwyr 黑料不打烊
Y gr诺p o Brifysgol 黑料不打烊 yn ystod eu taith ymchwil i Fflorida.Mae gr诺p o fyfyrwyr o ogledd Cymru wedi dychwelyd o daith ymchwil lle buont yn cerdded trwy gorsydd, yn can诺io trwy fangrofau ac yn nofio dros riffiau cwrel.
Fel rhan o鈥檜 graddau s诺oleg, treuliodd myfyrwyr o Brifysgol 黑料不打烊 wythnos yn y Bytholwerni yn Fflorida yn astudio bywyd gwyllt unigryw'r ardal.
Teithiodd y gr诺p ar hyd a lled Fflorida yn ymweld ag amrywiol gynefinoedd a phrojectau cadwraeth.
Yr Athro George Turner, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 黑料不打烊, drefnodd y daith i鈥檙 Unol Daleithiau ar y cyd 芒 chydweithwyr o鈥檙 Florida Gulf Coast University.
鈥淵mhell o鈥檙 holl atyniadau i dwristiaid, mae Fflorida yn le gwych i unrhyw un sy鈥檔 ymddiddori mewn bywyd gwyllt a鈥檙 byd naturiol,鈥 meddai鈥檙 Athro Turner.
鈥淐afodd y myfyrwyr weld anifeiliaid mwyaf enwog yr ardal megis aligatoriaid, dolffiniaid, morfuchod ac eryrod penfoel.
鈥渁c yn bwysicach na hynny, cawsant hefyd weld rhai o鈥檙 anifeiliaid llai a mwy swil ac astudio eu cynefinoedd hwy.
鈥淏yddai unrhyw s诺olegydd yn cael ei gyfareddu gan amrywiaeth ac addasiadau'r bywyd gwyllt yn Fflorida,鈥 meddai.
鈥淩oedd y daith yn arbennig o gofiadwy gan ein bod wedi cael cyfle i gynorthwyo gyda phroject modrwyo adar, cerdded mewn d诺r at ein canol trwy gors o goed cypreswydd a snorcelio dros riff cwrel.鈥
鈥淢ae鈥檔 wir dweud mai dyma un o鈥檙 uchafbwyntiau i fyfyrwyr sy鈥檔 astudio am radd s诺oleg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac rwy鈥檔 si诺r y bydd taith y flwyddyn nesaf llawn cystal,鈥 dywedodd yr Athro Turner.
Dywedodd Sally Roberts, oedd yn un o鈥檙 22 myfyriwr ar y daith, mai honno oedd un o wythnosau gorau ei bywyd.
鈥淩oedd yn wych, rwy鈥檔 methu credu ein bod wedi gallu gwneud cymaint mewn wythnos,鈥 dywedodd.
鈥淯n o fy hoff rannau oedd can诺io trwy鈥檙 mangrofau gan eich bod yn gallu mynd mor agos at y bywyd gwyllt - ar 么l i mi ddysgu sut i beidio 芒 throi鈥檙 can诺 drosodd wrth gwrs,鈥 dywedodd y ferch 20 oed o Wrecsam yn gellweirus.
Os hoffech ragor o wybodaeth am astudio am radd s诺oleg ym Mhrifysgol 黑料不打烊, ewch i www.bangor.ac.uk/biology <http://www.bangor.ac.uk/biology> neu ffoniwch 01248 382527.
Dyddiad cyhoeddi: 14 Rhagfyr 2010