Talent Glanaethwy
Llongyfarchiadau mawr i G么r Glanaethwy ar ddod i鈥檙 brig drwy bleidlais gyhoeddus yn rownd gyn-derfynol Britain鈥檚 Got Talent! Yn dilyn eu llwyddiant yn y gystadleuaeth nos Lun, bydd y c么r, sy鈥檔 cynnwys dros 160 o aelodau, yn cystadlu yn rownd derfynol y gystadleuaeth dalent ar ITV.
Arweinydd y c么r yw Cefin Roberts o Fangor sydd hefyd yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol y Gymraeg. Sefydlwyd Ysgol Glanaethwy yn 1990 ganddo ef a鈥檌 wraig, Rhian, i gynnig cyfleoedd perfformio i blant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru. Ers hynny mae鈥檙 ysgol wedi profi llu o lwyddiannau, ar lwyfannau cenedlaethol a rhyngwladol, a Phrifysgol 黑料不打烊 wedi dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Cefin a Rhian i gydnabod eu cyfraniad.
Yn 2008 daeth Cor H欧n Glanaethwy yn ail yn rownd derfynol rhaglen dalent y BBC, Last Choir Standing, ond mae鈥檙 c么r presennol yn cynnwys aelodau rhwng saith a 70 oed. Ymhlith yr aelodau hynny y mae rhai o staff a myfyrwyr presennol Prifysgol 黑料不打烊, ac rydym yn dymuno鈥檔 dda iddynt yn y rownd derfynol a ddarlledir yn fyw nos Sul nesaf.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Mai 2015