Te bach ar faes yr Eisteddfod yn dathlu pen-blwydd y Wladfa
Carwyn Jones gydag Elen SimpsonBeth well na ‘thê bach’ traddodiadol o Batagonia i ddathlu pen-blwydd y Wladfa Gymreig yn 150 o flynyddoedd oed, ac i dynnu sylw at gasgliad unigryw ac amhrisiadwy yn ymwneud â’r Wladfa sydd yn cael ei harddangos ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ at hyn o bryd.
Ag yntau yn yr Eisteddfod, wedi iddo ddychwelyd o’r dathliadau ym Mhatagonia, bydd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru yn dod i’r ‘Te bach’ ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn yr Eisteddfod Genedlaethol, am 2.30 prynhawn Llun.
Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: "Rwyf newydd ddychwelyd o Batagonia, lle cefais gyfle i ddathlu 150 mlynedd ers sefydlu'r Wladfa, ac rwy’n edrych ymlaen at ymweld â stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ar faes yr Eisteddfod.
"Mae gan ddisgynyddion yr ymfudwyr a aeth o Gymru i’r Ariannin le arbennig yng nghalonnau pobl Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn para am amser hir, ac rwyf wedi mwynhau’r cyfle i atgyfnerthu a dathlu'r cysylltiadau cryf sydd rhyngom o hyd, er bod 7,500 o filltiroedd yn ein gwahanu."
Gan Archifau Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ y mae’r casgliad mwyaf y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru o ddeunydd yn ymwneud â'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Mae arddangosfa ‘Y Cymry ym Mhatagonia’, sef detholiad o’r casgliad yma i’w weld ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ tan Rhagfyr 18 2015. Mae’r Arddangosfa ar gael yng Nghoridor Ystafell y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau, Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn ystod oriau swyddfa.
Adeiladu ffordd yn Cwm Hyfryd c1888. Yn y canol Llwyd ap Iwan mab i Michael D Jones a lofruddiwyd gan 'fandits' ym 1909. Bydd copïau o ddetholiad o’r Arddangosfa ar gael yn y te bach, i gyd fynd â dangosiad ar daflunydd o’r ffotograffau cynnar o’r ymsefydlwyr a rhai o’r bobol frodorol, a dynnwyd gan John Murray Thomas. Bydd Archifydd y Brifysgol, Elin Simpson yn rhoi cyd-destun a Mari Emlyn yn darllen darn o lythyr gan Mihangel ap Iwan, mab Michael D Jones, yn ysgrifennu o’r Wladfa.
Cyfuniad o sawl peth a gasglwyd at ei gilydd o blith mwy na 1500 o eitemau yw Casgliad Patagonia a ddelir gan Archifau Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ. Mae'n cynnwys llawysgrifau, llythyrau, ffotograffau, dyddiaduron, papurau newydd, llyfrau a chynlluniau'n ymwneud â gwladfa Gymreig Patagonia a sefydlwyd 150 o flynyddoedd yn ôl. Mae'r dogfennau'n cyflwyno hanesion o lygad y ffynnon a thystiolaeth ffotograffig o fywydau arloeswyr ac ymsefydlwyr y wladfa, gan alluogi i ddarllenwyr fod ag empathi a dealltwriaeth o'r criw o Gymry a ymdrechodd am ryddid ieithyddol a chrefyddol gydag annibyniaeth wleidyddol 8000 o filltiroedd o'u mamwlad.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Gorffennaf 2015