Technoleg Cyfieithu yn Helpu Diwydiant Cymru
Wyn Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Delyth Prys, Canolfan Bedwyr, Y Gweinidog, Allun Ffred AC a'r Athro Andy Rothwell o Brifysgol AbertaweGall technoleg cyfieithu helpu diwydiant yng Nghymru i gyrraedd marchnadoedd newydd ac ar yr un pryd gynorhtwyo i gynnal a datblygu cymunedau dwyieithog Cymru.
Bydd cynhadledd ar y cyd rhwng prifysgolion Abertawe a 黑料不打烊, a gynhelir ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar 14 Ionawr 2011, yn arddangos y datblygiadau diweddaraf ym maes technolegau iaith a lleferydd.
Dywedodd Delyth Prys, pennaeth yr Uned Technolegau Iaith yng nghanolfan Bedwyr y Brifysgol, a threfnydd y gynhadledd:
鈥淩ydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o gwmn茂au bach a chanolig eu maint yn Nghymru sy鈥檔 awyddus iawn i ddysgu sut mae gwneud gwell defnydd o dechnoleg yn medru eu helpu i gyfieithu yn well, yn gynt ac yn rhatach. Mae鈥檙 gynhadledd hon yn arddangos nifer o鈥檔 projectau llwyddiannus diweddar.
鈥淎r gyfer y gynhadledd rydym wedi casglu at ei gilydd nifer o adnoddau allweddol mewn casgliad o raglenni fydd yn cael eu dosbarthu am ddim i gynadleddwyr ar gofion bach. Y syniad yw y bydd mynychwyr y gynhadledd yn gallu treialu鈥檙 dechnoleg drostynt eu hunain a gweld faint o amser ac arian sy鈥檔 medru cael ei arbed.
鈥淩ydym hefyd yn falch iawn o fedru dangos cynifer o brojectau myfyrwyr yn y gynhadledd. Mae gan brifysgolion 黑料不打烊 ac Abertawe gyrsiau astudiaethau cyfieithu MA sy鈥檔 gryf mewn technoleg, ac mae gennym nifer o ysgoloriaethau sy鈥檔 cael eu noddi gan ddiwydiant i gryfhau cydweithio rhwng academia a diwydiant.鈥
Agorir y gynhadledd gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Alun Ffred Jones, a ddywedodd:
Y gweinidog, Alun Ffred Jones yn annerch y Gynhadledd鈥淢ae hon yn sefyllfa lle mae Cymru ar ei hennill mewn dwy ffordd. Rydym yn datblygu arbenigedd yn y diwydiant cyfieithu, yn gyntaf er mwyn gwasanaethu anghenion Cymru ddwyieithog, ond rydym hefyd yn gweld manteision a buddiannau gweithgareddau ymchwil a meddalwedd newydd lle mae鈥檙 effeithiau yn llawer ehangach. Mae llawer o鈥檙 gwaith hwn wedi鈥檌 ariannu gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac rydym yn falch iawn fod gan yr Adran Dreftadaeth ac Adran yr Economi ran i chwarae yn hyn, fel sydd gan yr Adran Addysg, er mwyn hyfforddi鈥檙 genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr ac ymarferwyr.鈥
Bydd Alun Ffred Jones yn cael ei groesawu i Brifysgol 黑料不打烊 gan Wyn Thomas, dirprwy is-ganghellor newydd y brifysgol gyda chyfrifoldeb dros y Gymraeg a Chysylltiadau Cymunedol. Dywedodd Wyn Thomas 鈥淢ae ymchwil a chyfnewid gwybodaeth gyda diwydiant yn bwysig iawn i鈥檔 prifysgol ni. Rydym yn falch iawn o gyfraniad Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr i broffil ymchwil y brifysgol a鈥檌 rhan yn helpu cefnogi cymunedau dwyieithog ac economi Cymru. Rydym hefyd yn falch iawn o weld cymaint o gyfleoedd cyflogaeth dda i鈥檙 myfyrwyr ar ein cyrsiau cyfieithu a chyrsiau 么l-raddedig eraill. Mae sgiliau dwyieithog da a dealltwriaeth o dechnoleg ddwyieithog yn rhoi manteision pendant i鈥檔 myfyrwyr wrth iddynt chwilio am swyddi. Mae鈥檙 gynhadledd hon yn gyfle gwych i ddwyn ynghyd ymchwilwyr, myfyrwyr a busnesau ym maes Technoleg Cyfieithu er budd pawb.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 14 Ionawr 2011