Teithiau o gasgliadau celf a serameg Prifysgol 黑料不打烊 efo barddoniaeth
Bydd teithiau tywys yn cael eu cynnal o gwmpas Casgliadau Celf a Serameg Prifysgol 黑料不打烊 ar y cyd efo Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ym mis Hydref a Tachwedd. Y bwriad ydi codi ymwybyddiaeth o鈥檙 casgliadau pwysig yma, gyda鈥檙 uchafbwyntiau yn cynnwys murlun gan Edward Povey yn Neuadd Powis, celf a serameg yng Nghoridor Ystafell Cyngor y Brifysgol a chyfle i weld a dysgu am waith celf gan artistiaid enwog fel Kyffin Williams, Brenda Chamberlain, Peter Prendergast a Frederick William Hayes.
Bydd y teithiau arbennig yma鈥檔 cael eu harwain gan Dr Sue Niebrzydowski a鈥檙 Athro Helen Wilcox o鈥檙 Adran Saesneg ac yn cynnwys darlleniadau o farddoniaeth perthnasol i鈥檙 lluniau a barddoniaeth newydd.
Mae鈥檙 teithiau tywys yma yn rhan o ymgyrch ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a Phrifysgol 黑料不打烊 i gynyddu mynediad i gasgliadau amgueddfeydd y Brifysgol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl lleol ac ymwelwyr i fwynhau a dysgu o鈥檙 creiriau sydd yn cael eu harddangos.
Cynhelir y teithiau tywys o fynedfa Prif Adeilad y Celfyddydau, Ffordd y Coleg, 黑料不打烊 ar Sadyrnau 6 o Hydref ac 17 o Dachwedd 11.00yb-12.30yp.
Os oes gennych ddiddordeb mynychu鈥檙 teithiau tywys, gofynnir i chi gadw eich lle gan mai dim ond lle i 15 person sydd ar bob taith. Gallwch wneud hyn drwy ffonio Storiel ar 01248 353368 neu e-bostio storiel@gwynedd.llyw.cymru
Dyddiad cyhoeddi: 2 Hydref 2018