Thomas Parry a Choleg 黑料不打烊
Syr Thomas ParryI ddathlu hanner canmlwyddiant cyhoeddi鈥檙 Oxford Book of Welsh Verse, a olygwyd gan Syr Thomas Parry, bydd yr Athro Derec Llwyd Morgan yn traddodi darlith, 鈥楾homas Parry a Choleg 黑料不打烊鈥, nos Fercher, 17 Hydref am 5.30 ym Mhrif Ddarlithfa鈥檙 Celfyddydau.
Hon yw鈥檙 ail mewn cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol 黑料不打烊. Mae鈥檔 agored i鈥檙 cyhoedd ac ni chodir t芒l mynediad. Mae鈥檙 Athro Derec Llwyd Morgan ar hyn o bryd yn gweithio ar lyfr ar yr Athro Thomas Parry ac mae鈥檔 defnyddio dogfennau a llythyrau gan Thomas Parry, yn ogystal 芒 deunydd yn ymwneud ag ef, sydd ar gael yn Archifau鈥檙 Brifysgol.
Mae gan yr Athro Derec Llwyd Morgan sawl peth yn gyffredin 芒鈥檙 Athro Thomas Parry o ran hynt eu gyrfa. Penodwyd y ddau yn ddarlithwyr yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol 黑料不打烊, a daeth y ddau鈥檔 ddiweddarach yn Brifathrawon Prifysgol Cymru, Aberystwyth (fel yr oedd bryd hynny).
Daeth yr Athro Thomas Parry hefyd yn Athro鈥檙 Gymraeg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac fe鈥檌 penodwyd yn Llyfrgellydd Cenedlaethol Cymru, cyn ei benodi鈥檔 Brifathro Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Gwnaeth gyfraniad sylweddol iawn ym maes astudio llenyddiaeth Gymraeg. Yn ogystal 芒鈥檙 Oxford Book of Welsh Verse, roedd ei gyfraniadau mawr eraill yn cynnwys golygu gweithiau Dafydd ap Gwilym a llunio鈥檙 gwaith ysgolheigaidd cyntaf ar hanes llenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900. Cyfieithwyd y gwaith hwnnw i鈥檙 Saesneg a鈥檌 gyhoeddi yn 1955 fel A History of Welsh Literature.
Meddai鈥檙 Athro Derec Llwyd Morgan, wrth ysgrifennu am Syr Thomas Parry yn y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein: 鈥淩oedd yn dywysog o ysgolhaig na wnaeth erioed esgeuluso鈥檙 bobl gyffredin, eu cyfranwyr gorau na鈥檜 sefydliadau anhepgor.鈥
Dylai鈥檙 ddarlith roi rhagflas o鈥檙 hyn sydd i ddod yn llyfr newydd yr Athro Llwyd Morgan.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Hydref 2012