T卯m 黑料不打烊 yn gwneud adolygiad o barciau morol yn y Carib卯
Mae rhaid amddiffyn y riffau cwrel er mwyn iddynt aros yn hydwythMae t卯m o Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 黑料不打烊 wedi bod yn brysur yn Ynysoedd y Cayman ym M么r y Carib卯, yn ymgynghori 芒鈥檙 cyhoedd yngl欧n 芒鈥檙 gwaith o warchod y m么r er mwyn helpu i gynllunio parciau morol y dyfodol.
Mae鈥檙 gwaith yn rhan o un o brojectau Menter Darwin DEFRA (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Llywodraeth y Deyrnas Unedig), sy鈥檔 ariannu鈥檙 project, a鈥檌 nod yw gwella rhan o鈥檙 m么r sydd eisoes dan warchodaeth. Ymunodd Dr John Turner (Arweinydd y Project), Laura Richardson (Swyddog y Project) a Croy McCoy (myfyriwr PhD) o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Eigion, 芒 rhai o gyfarwyddwyr Adran yr Amgylchedd mewn cyfres ddwys o 18 o gyfarfodydd cyhoeddus a digwyddiadau i鈥檙 cyfryngau ar hyd a lled yr ynysoedd. Rhoddodd y t卯m gyflwyniadau i weinidogion Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, y corff hybu twristiaeth, cymdeithas sy鈥檔 hybu chwaraeon d诺r, busnesau llogi llongau cydweithredol, ymddiriedolaeth genedlaethol, clybiau pysgota m么r a hyd yn oed gweinidogion eglwysi. Aeth y t卯m hefyd 芒 sioe deithiol o amgylch canolfannau cymunedol. Y nod oedd casglu barn trigolion yr ardal yngl欧n 芒鈥檙 m么r a鈥檙 agweddau arno roedden nhw鈥檔 eu gweld fel y rhai pwysicaf. Cymerodd y t卯m ran hefyd mewn dwy raglen 鈥榝fonio i mewn鈥 fywiog ar y radio, ac fe gynhyrchodd bum ffilm ddogfen fer a dau fideo i鈥檙 teledu. Cafodd y t卯m gryn sylw hefyd ym mhrif straeon papurau newydd yr ynysoedd!
Mae Menter Darwin yn ariannu gwaith ymchwil sydd o werth ymarferol uniongyrchol i wledydd lle mae bioamrywiaeth ar ei gorau. Ei nod yw helpu鈥檙 gwledydd i gyflawni eu rhwymedigaethau dan y prif gonfensiynau ar amrywiaeth fiolegol, rhywogaethau mudol a masnachu mewn rhywogaethau sydd mewn perygl. Mae staff Prifysgol 黑料不打烊 yn gweithio gyda鈥檜 partneriaid yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman a鈥檙 corff gwarchod natur yno i wneud adolygiad o鈥檙 parciau morol ac o gadwraeth y m么r.
Mae parciau morol presennol Ynysoedd y Cayman (un o diriogaethau tramor y Deyrnas Unedig) wedi gwasanaethu鈥檙 wlad yma鈥檔 arbennig o dda am 25 o flynyddoedd. Ond mae鈥檙 bygythiadau i amgylchedd y m么r yn wahanol iawn erbyn hyn i鈥檙 rhai yn 1986, pan gafodd y parciau eu creu.
Yn 么l Gina E Banks Petrie, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ar ran Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, 鈥榊 bygythiadau newydd yw poblogaeth sy鈥檔 cynyddu, gorbysgota, newid yn yr hinsawdd a rhywogaeth oresgynnol o ddreigiau m么r o Gefnfor yr India a鈥檙 M么r Tawel.鈥
Grwper Esboniodd Dr John Turner o Fangor sut yr oedd Adran yr Amgylchedd yr Ynysoedd wedi bod yn ddigon craff i fynd ati gyda chefnogaeth y cyhoedd i greu system o鈥檙 radd flaenaf o barciau morol:
鈥楶rin fod y mwyafrif o鈥檙 ardaloedd morol dan warchodaeth ar hyd a lled y byd yn fwy na 鈥減harciau papur鈥, gan fod diffyg gwaith rheoli a gorfodi. Mae parciau morol Ynysoedd y Cayman yn eithriadol gan eu bod wedi鈥檜 rhannu鈥檔 barthau dan wahanol lefelau o warchodaeth. Mae swyddogion cadwraeth yn gorfodi鈥檙 rheoliadau yngl欧n ag angori llongau, pysgota a rhyngweithio 芒 bywyd y m么r fel y morgathod duon enwog sy鈥檔 croesawu twristiaid i Sting Ray City. Ond mae鈥檙 bygythiadau newydd 鈥 fel d诺r y cefnfor yn cynhesu gan achosi clefydon a thynnu鈥檙 lliw o鈥檙 cwrelau, stormydd garwach sy鈥檔 digwydd yn amlach, lefel y d诺r yn y m么r yn codi a mwy o asidau yn y cefnfor 鈥 yn golygu bod angen i ni wneud adolygiad ar frys o鈥檙 ardaloedd dan warchodaeth fel eu bod yn gallu ateb gofynion y 25 mlynedd nesaf.鈥
Pwysleisiodd aelodau鈥檙 t卯m yn eu cyflwyniadau ei bod hi鈥檔 hanfodol cynyddu lefel y warchodaeth er mwyn i鈥檙 riffiau cwrel allu gwrthsefyll effeithiau鈥檙 bygythiadau sy鈥檔 dod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Yn eu tro, byddai鈥檙 riffiau cadarnach yma鈥檔 amddiffyn yr arfordiroedd ac yn dod 芒 manteision economaidd ar ffurf twristiaeth a physgota.
Mae Project Menter Darwin wedi cyrraedd hanner ffordd drwy raglen tair blynedd o hyd. Bu鈥檙 t卯m wrthi鈥檔 gwneud arolygon maes i asesu iechyd y riffiau cwrel o amgylch y tair ynys ac i ystyried pa mor helaeth oedd y poblogaethau o bysgod a鈥檙 pwysau sy鈥檔 dod yn sgil gweithgareddau pysgota. Arweinydd yr holl arolygon maes oedd Croy McCoy, ymgeisydd o Ynysoedd y Cayman am PhD ym Mhrifysgol 黑料不打烊 sydd hefyd yn Uwch-wyddonydd Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth yr Ynysoedd. Cafodd gymorth Laura Richardson a raddiodd o Fangor ac sydd hefyd yn gweithredu fel Swyddog y Project, a thri th卯m o fyfyrwyr ar y cwrs MSc mewn Gwarchod yr Amgylchedd Morol, sy鈥檔 gwneud eu projectau ymchwil ar riffiau cwrel Ynysoedd y Cayman.
鈥楧rwy ddod 芒 gwyddonwyr maes i鈥檙 Ynysoedd, rydyn ni鈥檔 ychwanegu at y gallu i wneud yr arolygon dwys yma. Mae hynny鈥檔 helpu鈥檙 wlad i roi sylw i broblemau pwysig ym maes cadwraeth ac mae hefyd yn gyfle gwych i鈥檔 myfyrwyr 么l-radd ni,鈥 meddai John Turner.
Cyflwynodd Tim Austin, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Adran yr Amgylchedd Llywodraeth Ynysoedd y Cayman, ganlyniadau鈥檙 arolygon yn ystod yr 18 o gyfarfodydd cyhoeddus yng nghwmni鈥檙 t卯m. Dywedodd: 鈥楳ae tystiolaeth gennym erbyn hyn sy鈥檔 dangos sut mae鈥檙 Ynysoedd yn elwa ar yr ardaloedd morol dan warchodaeth. Yn y mannau dan warchodaeth mae鈥檙 cwrelau鈥檔 gorchuddio mwy o鈥檙 riffiau, ac yno hefyd mae llai o glefydon a channu nag sydd yn y mannau sydd heb eu gwarchod. Mae mwy o bysgod yn y mannau dan warchodaeth, ac mae rhai o鈥檙 rheini鈥檔 nofio oddi yno i鈥檙 d诺r o鈥檜 hamgylch.鈥
Mae'r pysgodyn llew yn rywogaeth ymledol rheibus o'r Indo-Passiffig sydd yn dinistrio cymunedau pysgod yn y Carib卯 Dangosodd John Turner mai dim ond 17% o sgafell gul Ynysoedd y Cayman sydd dan warchodaeth lawn, a nod y project yw gwarchod 30-50% o鈥檜 cynefinoedd fel mangrofau a morwellt, a鈥檙 cynefinoedd yn rhan gefn y riffiau ac ar eu teras. Bydd y project yn defnyddio technegau cynllunio ardaloedd dan warchodaeth sy鈥檔 debyg i鈥檙 rhai a ddefnyddiwyd i amddiffyn Parc Morol y Barriff Mawr yn Awstralia. Byddan nhw鈥檔 ystyried ffyrdd o warchod ardaloedd newydd, a bydd y t卯m yn eu cyflwyno i鈥檙 cyhoedd yn ystod ail gyfres o sesiynau ymgynghori ar yr ynysoedd y flwyddyn nesaf. Y cam nesaf fydd dylunio system newydd o barciau morol.
Yn ystod y rownd bresennol o sesiynau ymgynghori ar hyd a lled Ynysoedd y Cayman, aeth y t卯m ati i annog cyrff a鈥檙 cyhoedd i s么n am eu pryderon ac am eu gweledigaeth ar gyfer amgylchedd y m么r mewn 25 o flynyddoedd. Disgrifiodd rhai o drigolion h欧n yr Ynysoedd y riffiau fel yr oeddent yn ystod eu hieuenctid, gan nodi pa mor hawdd oedd pysgota yno. Roedd y mwyafrif o鈥檙 bobl yn awyddus i weld mwy o amgylchedd y m么r dan warchodaeth, gan gydnabod gwerth riffiau byrlymus, llawn bywyd o safbwynt twristiaeth ac amddiffyn arfordiroedd. Ond roedden nhw hefyd yn pwysleisio bod angen addysgu pobl a gorfodi鈥檙 rheoliadau鈥檔 fwy trylwyr. Soniodd rhai o鈥檙 pysgotwyr am eu pryderon, wrth gwrs, ond roedden nhw鈥檔 dod i sylweddoli鈥檔 raddol hefyd y byddai gwella鈥檙 parciau morol yn sicrhau adnoddau ar gyfer cenedlaethau鈥檙 dyfodol.
Dyddiad cyhoeddi: 28 Medi 2011