T卯m Codi Pwysau Olympaidd China yn mwynhau ymlacio ym mynyddoedd Gogledd Cymru
Wei Deng, Xiaoting Chen a Xiaofang Ouyang yn dangos eu gwerthfawrogiad o gastell CaernarfonYn ddiweddar bu T卯m Codi Pwysau Olympaidd China yn aros ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ar gyfer eu gwersyll hyfforddi i baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012. Cyn gadael fe wnaethant fwynhau bore prin o ymlacio gan gael taith i weld rhai o ogoniannau cefn gwlad Cymru. Cawsant weld rhai o鈥檙 prif olygfeydd a鈥檙 hyn sydd gan yr ardal o amgylch 黑料不打烊 i鈥檞 gynnig. Arhoswyd i ddechrau yng Nghastell Caernarfon, lle croesawyd y t卯m gan Ddirprwy Faer y dref, Tudor Owen, ger y fynedfa i鈥檙 adeilad mawreddog. Cawsant daith dywys o amgylch y castell i ddechrau cyn cael cyfle i grwydro鈥檙 adeilad hynafol drostynt eu hunain.
Gan symud ymlaen tua鈥檙 mynyddoedd, arhosodd y T卯m i fwynhau golygfeydd o'r Wyddfa o Ben Llyn ger Penisarwaun. Yna wrth iddynt deithio gyda godre鈥檙 Wyddfa cawsant dipyn o hanes mynyddoedd Eryri. Eglurodd tywysydd lleol mai yn Eryri y bu鈥檙 dynion a goncrodd Everest gyntaf yn ymarfer a gwyliodd yr athletwyr y tr锚n bach yn pwffian ei ffordd drwy鈥檙 cymylau i fyny鈥檙 mynydd.
Y T卯m Codi Pwysau ger Llyn padarn鈥淩oedd yn ddiwrnod da iawn,鈥 meddai un o鈥檙 athletwyr Yu Tao, 鈥淔e wnes i ei fwynhau鈥檔 fawr. Uchafbwynt y diwrnod yn sicr oedd y castell, roedd yn rhyfeddol.鈥
Bu鈥檙 t卯m yn bwyta ym Mar Uno ar safle preswyl Ffriddoedd Prifysgol 黑料不打烊 a hwyluswyd eu hamserlen hyfforddi galed gan Ganolfan Chwaraeon a Hamdden Maes Glas. Meddai Dave Jones, Rheolwr Chwaraeon a Hamdden, 鈥淢ae hwn wedi bod yn gyfle gwych i weld rhai o athletwyr gorau鈥檙 byd yn ymarfer. Rydym yn hynod falch bod yr Olympiaid wedi canmol cymaint ar y cyfleusterau sydd gennym ym Maes Glas!鈥
Yong Lu, un o'r codwyr pwysau ym Mhrifysgol 黑料不打烊 01248 388088
Canolfan Chwaraeon Maes Glas 01248 382571
01248 388887
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011