Trafod Cymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd
鈥淧a bryd defnyddiwyd y gair 鈥榓dferteisio鈥 yn y Gymraeg am y tro cyntaf: (a) 1974, (b) 1880 ynteu (c) 1763?鈥
Bydd yr ateb i鈥檙 cwestiwn hwn a nifer o ffeithiau ieithyddol eraill am yr iaith Gymraeg a鈥檌 pherthynas 芒鈥檙 iaith fain yn cael eu datgelu mewn sesiwn drafod ar y pwnc 鈥滳ymraeg a Saesneg mewn sgyrsiau pob dydd鈥 ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊 ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mawrth 2 Awst, o 4:00y.h. tan tua 4:30y.h. Mae croeso i bawb sydd 芒 diddordeb alw draw i鈥檙 babell.
Bydd y sesiwn yn rhoi cyfle i bobl ddysgu am hanes y cysylltiad rhwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg yn ogystal 芒 chael cipolwg ar sgwrsio dwyieithog yng Nghymru a chymunedau dwyieithog eraill yn y byd.
Mae鈥檙 rhaglen yn cynnwys cwis geiriau, cyflwyniad gan y Dr Peredur Davies a鈥檙 Athro Margaret Deuchar, arddangosfa gydag enghreifftiau o gymunedau dwyieithog eraill, sesiwn holi a thrafod a chyfle i gael paned a sgwrs anffurfiol.
Meddai鈥檙 Athro Margaret Deuchar, Cyfarwyddwr Canolfan ESRC dros Ymchwil i Ddwyieithrwydd ym Mhrifysgol 黑料不打烊, sy鈥檔 trefnu鈥檙 digwyddiad:
鈥淏ydd ein sesiwn yn gyfle unigryw i glywed am yr ymchwil ddiweddaraf rydym wedi鈥檌 gwneud ar sgwrsio dwyieithog. Pwrpas ein hymchwil yw gweld sut mae pobl ddwyieithog yn defnyddio eu dwy iaith wrth sgwrsio gyda鈥檌 gilydd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 29 Gorffennaf 2011