Trafod y gyfres The Crown
Wrth i鈥檙 gyfres The Crown dychwelyd i Netflix ar gyfer ei thrydedd gyfres fis yma, bydd dilynwyr yn cael gweld un o drefi gogledd Cymru yn cael ei thrawsnewid yn 么l i鈥檙 chwe degau.
Bydd y drydedd gyfres yn cynnwys digwyddiadau enwog y teulu brenhinol rhwng 1964 ac 1977. Un o鈥檙 digwyddiadau hanesyddol yma yw Arwisgiad y Tywysog Charles fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon yn 1969. Bu actorion megis Olivia Colman a Josh O鈥機onnor yn cael eu ffilmio yng Nghaernarfon mewn golygfeydd yng ngogledd Cymru ymysg extras a oedd yn cynnwys pobl leol a myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊.
Roedd y seremoni yn 1969 yn creu rhwyg mewn cymdeithas Gymreig leol a hynny oherwydd bod teuluoedd efo rhai o blaid ac eraill yn erbyn yr arwisgiad. Dyma Dr Euryn Roberts, Darlithydd mewn Hanes Oesoedd Canol a Hanes Cymru ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i egluro,
鈥淩oedd yna 90 mil o bobl wedi tyrru i Gaernarfon i fod yno ar ddiwrnod yr arwisgiad yn 1969 a hefyd roedd yna 500 miliwn o bobl yn gwylio'r digwyddiad ar draws y byd ar y teledu. Roedd yn un o ddigwyddiadau mwyaf ar lwyfan rhyngwladol yn hanes Cymru ond tu 么l i鈥檙 holl basiantri mi oedd yna gryn anniddigrwydd hefyd yng Nghymru. Roedd yna brotestio a hefyd ymgyrch fomio gan bobl yn gwrthwynebu'r arwisgiad. Roedd yn ddigwyddiad a oedd yn rhannu teuluoedd ac yn rhannu barn yn yr un modd ac mae rhywbeth fel Brexit yn ei wneud heddiw.鈥
Mae Dr Euryn Roberts yn addysgu modiwlau ar gestyll a thywysogion Cymru ac yn credu fod lleoliad Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnig profiad unigryw i fyfyrwyr. Dywedodd,
鈥淩ydym yn ffodus iawn ym Mangor bod gennym ni'r safleoedd hanesyddol penigamp yma ar ein stepen drws ni 鈥 o gestyll Edward y 1af i gestyll y tywysogion Cymreig heb s么n am yr archeoleg sydd o dan ein traed ni.鈥
Bydd The Crown yn dychwelyd ar gyfer y drydedd gyfres ar Netflix ar y 17eg o Dachwedd.
Gwyliwch y fideo llawn o Dr Euryn Roberts yn Trafod The Crown.
Dyddiad cyhoeddi: 7 Tachwedd 2019