T欧 Gobaith yn derbyn rhodd elusennol
O'r chwith: Diane Roberts, Joe Patton a Katrina LawsonYn ddiweddar cyflwynodd Prifysgol 黑料不打烊 siec am dros 拢4,000 i elusen leol T欧 Gobaith ar 么l blwyddyn lwyddiannus arall o godi arian.
Hosbis Plant T欧 Gobaith yw'r elusen a fabwysiadwyd gan Brifysgol 黑料不打烊. Bob blwyddyn cynhelir amrywiaeth o weithgareddau i godi arian at yr achos arbennig hwn ac eleni roedd yn bleser mawr gan y Brifysgol gyflwyno siec am 拢4000.27 i'r elusen.
Cyflwynwyd y siec gan Miss Diane Roberts, sy'n gweithio fel Rheolwr Cangen banc Santander yn y Brifysgol. Pan glywodd Diane bod her colli pwysau'n cael ei threfnu i godi arian at D欧 Gobaith, ymunodd yn yr her gyda chydweithiwr iddi a chael cyllid cyfatebol gan Santander i'r hyn a gasglwyd ganddynt.
Gyda chefnogaeth o 拢700 gan Santander, casglwyd cyfanswm o 拢1,933 o ganlyniad i'r her colli pwysau. Casglwyd gweddill yr arian drwy werthu cylch allweddi T欧 Gobaith, cynnal gwasanaeth carolau yn yr Ysgol Addysg a'r elw a gafwyd drwy loteri staff y Brifysgol.
Meddai Mrs Katrina Lawson, Cydlynydd Codi Arian i D欧 Gobaith yn yr ardal: "Flwyddyn ar 么l blwyddyn rydym yn cael ein rhyfeddu gan y gefnogaeth y mae Prifysgol 黑料不打烊 yn ei rhoi i D欧 Gobaith. Rydym angen casglu dros 拢1 miliwn yn flynyddol i sicrhau y gallwn edrych ar 么l babanod, plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n ddifrifol wael, yn ogystal 芒 rhoi cefnogaeth i'w teuluoedd. Mae cael cefnogaeth gyson fel hyn gyda miloedd o bunnau'n cael eu casglu'n flynyddol yn hynod bwysig ac rydym yn dra diolchgar i bawb sydd naill ai'n chwarae'r loteri neu a noddodd yr her colli pwysau. Diolch yn fawr i bawb ohonoch."
Meddai Joe Patton, sy'n cydlynu digwyddiadau codi arian at D欧 Gobaith yn y Brifysgol: "Mae ein staff wedi bod yn hynod barod bob amser i gefnogi'r gwaith hollbwysig y mae T欧 Gobaith yn ei wneud."
Dyddiad cyhoeddi: 2 Mehefin 2014