Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ymweld 芒 Phrifysgol 黑料不打烊
Cynhaliodd Prifysgol 黑料不打烊 ymweliad gan Uchel Gomisiynydd Jamaica yn ddiweddar (15 Awst) yn ystod taith hanesyddol
Dr Lola Ramocan, Ei Ardderchogrwydd Mr Seth George Ramocan, Elen Wyn Simpson, Archifydd, Dr Shaun Evans, Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru (SYYC) a Dr Marian Gwyn Ymchwilydd Cysylltol SYYC yn astudio dogfennau o gasgliad Papurau Penrhyn. 芒 Chymru. EA Mr Ramocan yw 13eg Uchel Gomisiynydd (UG) Jamaica i'r DU ers i Jamaica ennill ei annibyniaeth ym 1962 a ef yw'r UG cyntaf i ymweld 芒 Chymru yn swyddogol.
Gan ddechrau yng Nghaerdydd gyda chyfarfod o henoed Cenhedlaeth y Windrush, ymwelodd EA Mr Ramocan 芒 mannau o'r brifddinas sydd 芒 chysylltiadau hanesyddol 芒 Jamaica, cyn teithio ymlaen i'r gogledd i Fangor. Yma, croesawyd yr Uwch Gomisiynydd yn ffurfiol i'r Brifysgol gan yr Is-Ganghellor, yr Athro John G. Hughes ac yna fe鈥檌 cyflwynwyd i bapurau Penrhyn-Jamaica'r Brifysgol, cofnodion sydd wedi eu storio a'u casglu fel rhan o Archifau a Chasgliadau Arbennig y Brifysgol. Mae'r rhain yn cynnwys mapiau a dogfennau sy'n ymwneud 芒 phlanhigfeydd siwgr mawr Ystad Penrhyn yn Jamaica a'i r么l mewn caethwasiaeth yn y Carib卯 yn ystod y 18fed a'r 19eg ganrif.
Yna, ymwelodd Mr Ramocan 芒 Chastell Penrhyn, cartref hynafol y teulu Pennant, a chafodd daith o amgylch yr adeilad a'r gerddi. Dilynwyd hyn gyda derbyniad dinesig yn Neuadd Penrhyn Cyngor Dinas 黑料不打烊, lle cynhaliwyd trafodaethau ar gysylltiadau presennol a rhai鈥檙 dyfodol rhwng gogledd Cymru a Jamaica.
Yn dilyn ymweliad yr Uchel Gomisiynydd 芒鈥檙 Brifysgol, meddai鈥檙 Is-Ganghellor, Yr Athro John G. Hughes:
鈥淩oedd yn bleser croesawu Ei Ardderchogrwydd Mr Ramocan i'r Brifysgol ac i ddangos iddo ef a'i ddirprwyaeth rai o'r papurau a'r mapiau sydd yma ym meddiant ein Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau. Maent yn gofnodion hanfodol o amser pan oedd gan y rhanbarth hon berthynas gywilyddus 芒 Jamaica 鈥 perthynas sydd bellach, yn ffodus, wedi cael ei gwyrdroi tuag at y cadarnhaol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 15 Awst 2018