Uchel Siryf newydd yn gwobrwyo myfyrwyr am eu gwaith gwirfoddol
Cynhaliwyd seremoni flynyddol Gwobrau鈥檙 Uchel Siryf ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar. Mae Gwobr yr Uchel Siryf yn cydnabod ac yn gwobrwyo ymdrechion gwirfoddoli gan fyfyrwyr 黑料不打烊 fel unigolion ac mewn grwpiau.
Cyflwynwyd gwobrau i鈥檙 holl enillwyr gan yr Uchel Siryf, Mrs Marian Wyn Jones, gan gyflawni ei swyddogaeth gyntaf fel Uchel Siryf. Llongyfarchwyd y myfyrwyr am roi o鈥檜 hamser a鈥檜 hymdrechion, ar ben eu gwaith astudio, i gyfrannu at y gymuned myfyrwyr a'r gymuned yn ehangach trwy eu gwaith gwirfoddol.
Wrth gyflwyno鈥檙 gwobrau dywedodd Mrs Marian Wyn Jones, 鈥淢ae鈥檔 bleser cael cydnabod a gwobrwyo myfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 am y gwaith gwerthfawr y maent yn cyflawni mewn rolau, cynlluniau a rhaglenni gwahanol o fewn y gymuned leol. Mae鈥檙 myfyrwyr yn gwirfoddoli mewn ystod eang o brojectau, ac yn rhoi 400 awr bob wythnos yn gwirfoddoli mewn projectau sy鈥檔 ymwneud 芒 phlant, pobl ifanc a phobl agored i niwed yn y gymdeithas.鈥
Enillwyr unigol 2013 oedd:
Mike Dixon, myfyriwr Troseddeg a Seicoleg 28 oed a ddaw yn wreiddiol o ardal Wigan. Derbyniodd Mike 拢100 i gydnabod ei waith gydag un o brojectau gwirfoddoli Myfyrwyr 黑料不打烊, sef project T欧 Newydd, a gynhelir mewn hostel fechn茂aeth ym Mangor. Mae鈥檙 project yn ymwneud ag annog y dynion i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel sgwrsio cyffredinol a thwrnameintiau pwl. Wrth enwebu Mike dywedwyd, 鈥淢ae鈥檔 bleser cydweithio gyda Mike ar y project; mae鈥檔 arweinydd ac yn esiampl dda i鈥檙 dynion ac yn dangos cydbwysedd iach rhwng bod yn gyfrifol a chael hwyl鈥.
Disgrifiwyd James Mclean, myfyriwr Gwyddor Amgylcheddol o Kenya yn ei enwebiad am y wobr fel, 鈥渆nghraifft wych o unigolyn sy鈥檔 wirioneddol anhunanol鈥. Ers dwy flynedd a hanner mae Jamie wedi rhoi yn ddiflino o鈥檌 amser a鈥檌 frwdfrydedd er lles pobl eraill. Bu鈥檔 gwirfoddoli gyda chlwb deifio鈥檙 brifysgol a chynnig ei sgiliau cymorth cyntaf i glybiau chwaraeon a chymdeithasau eraill. Cyfrannodd ei arbenigedd yn wirfoddol trwy hyfforddi dros 600 o fyfyrwyr mewn sgiliau sy鈥檔 ddrud ac yn anodd eu dysgu fel sgwba blymio a bu鈥檔 hyfforddi pobl nad ydynt yn anabl ac unigolion gydag anawsterau dysgu a chorfforol. Bu hefyd yn cynorthwyo eraill i fwynhau鈥檙 awyr agored mewn cychod modur. Bob penwythnos yn ystod y tymor, bu Jamie鈥檔 trefnu tripiau lleol ar y m么r i nifer fawr o fyfyrwyr a鈥檙 gymuned leol.
Yn 么l yr enwebiad, yr hyn sy鈥檔 gwneud Jamie鈥檔 unigryw yw ei angerdd heintus a brwdfrydedd i roi cyfle i bobl eraill, gan sicrhau diogelwch, trefniadaeth a chyfranogiad o鈥檙 radd uchaf bob amser. Mae鈥檔 unigolyn bonheddig a brwdfrydig y mae pawb yn ei hoffi ac mae鈥檔 llysgennad da i Fangor a鈥檙 myfyrwyr.鈥 Derbyniodd Jamie 拢100.
Enillwyd y wobr gr诺p o 拢300 gan Nawdd Nos, sef gwasanaeth gwrando a gwybodaeth a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr i fyfyrwyr. Derbyniodd cydlynwyr Nawdd Nos, Lucy Bryning a Susan McCandless y wobr ar ran y gr诺p. Bwriad Nawdd Nos yw sicrhau bod pob myfyriwr yn cael mynediad at gefnogaeth tu-allan-i-oriau ar ffurf gwasanaeth gwrando sy鈥檔 gyfeillgar a ddim yn feirniadol. Mae鈥檙 gwasanaeth yn agored bob nos rhwng 8.00 y nos ac 8.00 y bore yn ystod y tymor. Mae鈥檙 gr诺p yn rhoi cefnogaeth i fyfyrwyr ar adeg pan nad oes llawer o wasanaethau myfyrwyr, teulu neu ffrindiau ar gael. Caiff y gwirfoddolwyr eu hyfforddi i gefnogi unigolion sy鈥檔 delio 芒 nifer o wahanol broblemau. Bydd myfyrwyr yn ffonio Nawdd Nos i drafod pob math o broblemau ymarferol sy鈥檔 effeithio ar fyfyrwyr fel arholiadau neu broblemau academaidd yn ogystal 芒 materion iechyd meddwl fel hunan-niwedio neu hunanladdiad. Gall Nawdd Nos hefyd gyfeirio myfyrwyr at wybodaeth berthnasol a gwasanaethau eraill yn y brifysgol a thu hwnt. Ar hyn o bryd mae Nawdd Nos yn cynnig cyfle i 65 o fyfyrwyr wirfoddoli am o leiaf wyth shifft 12 awr yr un yn ystod y flwyddyn, gan wneud cyfanswm o dros 5,000 awr o wirfoddoli. Dywedodd Lucy ar ran Nawdd Nos y caiff yr arian ei wario ar achos da, 鈥淢ae鈥檙 gwirfoddolwyr yn ddienw oherwydd naturiol cyfrinachol y gwasanaeth. Golyga hyn nad ydynt yn aml yn cael yr un gydnabyddiaeth gan eu cyfoedion a鈥檙 gymuned o gymharu 芒 dulliau eraill o wirfoddoli. Felly rydym yn hynod falch o dderbyn y wobr ar ran ein holl wirfoddolwyr a gall bob un ohonynt deimlo鈥檔 falch am yr hyn maent yn ei gyflawni a鈥檙 gydnabyddiaeth a gafwyd heddiw.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 16 Ebrill 2013