Un Byd ym Mangor
Dychmygwch noson o offerynnau traddodiadol, dawnsfeydd bywiog a lleisiau hyfryd o bob cwr o'r byd.
Dyna a gafwyd yn ddiweddar wrth i Brifysgol 黑料不打烊 gynnal ei Gala Un Byd blynyddol, lle mae myfyrwyr a pherfformwyr o鈥檙 gymuned leol yn arddangos eu diwylliannau ar g芒n, dawns a chyda pherfformiadau offerynnol.
Cafwyd ugain perfformiad gan fyfyrwyr o Tsieina, Siapan, Singapore, Affrica, Fietnam, India, Indonesia, Korea a Chymru mewn digwyddiad sydd wedi datblygu鈥檔 uchafbwynt bywiog a lliwgar i ddathlu amrywiaeth ym Mangor.
Llywyddwyd y cyfan gan ddau fyfyriwr rhyngwladol, Raja Asad o Bacistan a Fiona Jia Ng o Malaysia, ac agorwyd y noson gan gr诺p drymio lleol, Bloco S诺n. Roedd y noson yn cynnwys llawer o arddulliau gwahanol gan gynnwys dawnsio stryd o Corea, dawns draddodiadol o India a dawns y glocsen o Gymru. Cafwyd hefyd ddarnau offerynnol gydag offerynnau traddodiadol o Tsieina, Dawns Fietnameaidd, ac i gloi cafwyd cyfres o ganeuon Bollywood.
Roedd brif Neuadd y Brifysgol dan ei sang gyda myfyrwyr, staff ac aelodau鈥檙 gymuned leol, a fu鈥檔 mwynhau鈥檙 cyfan gan godi bron i 拢700 i elusen leol. Trefnir y Gala flynyddol gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol i ddathlu a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol Prifysgol 黑料不打烊 a'r gymuned leol. Mae鈥檔 rhoi cyfle i fyfyrwyr rhyngwladol arddangos eu diwylliannau traddodiadol i鈥檙 myfyrwyr eraill ac i鈥檙 gymuned leol ym Mangor.
Dywedodd Angharad Thomas, Cyfarwyddwr Recriwtio Rhyngwladol y Brifysgol:
"
Mae Aditi, sydd yn astudio cerddorioaeth, hefyd yn perfformio ei cyfansoddiadau ei hun o dan yr enw Dot.Mae'r Gala Un Byd wedi datblygu i fod yn uchafbwynt cyson yng nghalendr cymdeithasol y Brifysgol. Mae'n arddangos doniau ein myfyrwyr rhyngwladol, a'u balchder nhw yn eu diwylliannau cenedlaethol. Mae'r caneuon, y dawnsiau a'r darnau offerynnol yn amlygu'r amrywiaeth sydd gennym yma ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ac yn tanlinellu pa mor bwysig yw hi inni rannu a hyrwyddo ein gwahanol ddiwylliannau o fewn y Brifysgol, yn enwedig ar amser cythryblus mewn mannau eraill yn y byd."
Mae鈥檙 Gala wedi ei gynnal am oddeutu 15 mlynedd ac mae鈥檔 dod yn fwy ac yn well bob blwyddyn. Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn y gwahaniaeth ymysg y myfyrwyr sy鈥檔 dod i鈥檙 Brifysgol, a hefyd y croeso maent yn ei dderbyn gan y Brifysgol a鈥檙 ddinas. Fel y dywedodd Aditi, un o鈥檙 perfformwyr o India, 鈥淩oedd Gala Un Byd 2019 yn arddangos y niferoedd o genhedloedd gwahanol sydd yma ym Mangor, drwy gerddoriaeth a dawns. Mae鈥檔 llwyfan i ni ddod ynghyd yn y cornel bychan o Gymru i ddathlu diwylliannau lliwgar a gwahanol y byd.鈥
Meddai Fiona Jia Ng, o Malaysia, ac un o lywyddion y noson: 鈥淓r fy mod ond yn fyfyrwraig ryngwladol, cefais y cyfle i fod yn rhan o鈥檙 digwyddiad adloniadol tu hwnt! Roedd cael bod y tu 么l i鈥檙 llenni am y tro cyntaf yn brofiad gwych. Fel cyd-lywydd y noson ces ddymuno鈥檔 dda i bawb cyn iddynt fynd ar y llwyfan. Roedd y profiad yn cael ei ddyblu wrth i mi eu llongyfarch ar eu perfformiadau gwych yr eiliad y daethant oddi ar y llwyfan! Mae鈥檙 digwyddiad yn sicr wedi gwneud fy mlwyddyn olaf ym Mangor yr un fwyaf cofiadwy, gyda straeon llawn hwyl i rannu gyda fy ffrindiau gartref!鈥
Dyddiad cyhoeddi: 20 Mawrth 2019