Un cam yn nes at yr archfarchnad ar gyfer project i droi glaswellt yn ddeunydd pacio bwyd
Mae treialon prototeip yn mynd rhagddo ar gyfer project sy鈥檔 cael ei harwain gan brifysgol a diwydiant i droi rhygwellt Cymreig yn ddeunydd pacio bwyd cynaliadwy.
Gan ddefnyddio鈥檙 offer mowldio mwydon diweddaraf, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol 黑料不打烊 wedi dechrau proses twymo cymysgiadau rhygwellt i wasgu a mowldio mewn i gynnyrch prototeip ar gyfer pacio ffrwythau a llysiau.
Mae cyllid o bron i 拢600,000 o raglen Cyllid Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) Llywodraeth Cymru yn hwyluso project Cynnyrch Cynaliadwy o Rygwellt (Sustainable Products from Ryegrass -STARS), rhaglen gydweithredol ymchwil rhwng prifysgolion 黑料不打烊 ac Aberystwyth a chwe phartner diwydiannol, gan gynnwys Waitrose.
Mae鈥檙 project yn ymchwilio amrediad o gynnyrch a all eu cynhyrchu o rygwellt, gan gynnwys pacio sydd efo sylfaen ffibr, a all gael ei ailgylchu鈥檔 hawdd, ar gyfer bwydydd a deunyddiau nwyddau carbon isel eraill, gan gynnwys biodanwyddau a chemegion platform.
Bydd y partneriaid diwydiannol- gan gynnwys Waitrose ac 鈥 yn darparu鈥檙 pacio sylfaen ffibr ar gyfer y treialon mewn archfarcghhnadoedd 鈥 hefyd yn cydweithio鈥檔 agos efo鈥檙 prifysgolion ar y project.
Yn allweddol i sicrhau鈥檙 potensial ar gyfer masnacheiddio鈥檙 cynnyrch fydd arbenigedd a gwybodaeth masnachol y rhan ddeiliaid diwydiannol.
Mae鈥檙 project yn cael ei harwain gan Ganolfan BioGyfansoddion Prifysgol 黑料不打烊 a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth.
Meddai Dr Adam Charlton, o鈥檙 Ganolfan BioGyfansoddion Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淢ae gweithio ar dreialon i gynhyrchu pecynnau prototeip yn nodi cyfnod hanner ffordd gyffrous yn y project ac yn y 12 mis sydd i ddod byddem yn canolbwyntio ar wella鈥檙 deunyddiau drwy gydweithio efo Adare a Waitrose.
鈥淩ydym yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru ac wrth ein boddau i gael gweithio efo cyrff sy鈥檔 arwain yn fyd eang ac sydd efo mewnwelediad marchnata o bwys, sy鈥檔 cynnig gwir bosibilrwydd i fasnacheiddio nifer o ffrydiau cynnyrch o rygwellt.鈥
Dywedodd y Gweinidog Economi, Edwina Hart: 鈥淢ae鈥檔 bositif gweld dau sefydliad Cymraeg yn gweithio ar broject mor unigryw i ddefnyddio rhygwellt Cymreig ar gyfer cynnyrch sydd efo potensial masnachol mor enfawr.鈥
鈥淢ae ysgogi diwydiant gwyrdd yn amcan allweddol Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 bositif gweld ein rhaglen Cyllid Arbenigedd Academaidd i Fusnesau (A4B) yn hwyluso cydweithio mor flaengar rhwng prifysgolion a diwydiant i ddod a chynnyrch newydd i鈥檙 farchnad.鈥
Meddai Derek Davies, Rheolwr Technegol Pacio ar gyfer : 鈥淢ae gan Adare eisoes amrediad eang o hambyrddau a basgedi gyda sylfaen ffibr, wedi marchnata o dan frand Fibellus, a bydd y project o bwys yma yn gyfle i ni ymchwilio dichonolrwydd defnyddio鈥檙 deunydd crai newydd yma o Gymru fel ffynhonnell pacio ar gyfer bwydydd ac eraill.
鈥淩ydym yn awyddus i ddatblygu ein detholiad o ddewisiadau cyfeillgar i鈥檙 ddaear amgen i ffurfiau plastig ac rydym yn hyderus y gall y project yma ymhelaethu ar yr ystod yma o ddewis.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 19 Tachwedd 2013