Un Noson, Un Byd!
Un o'r perfformiadau lliwgar a gafwyd y llynedd.: Llun: Katerina VidenskayaBydd Prifysgol 黑料不打烊 yn cynnal Gala Un Byd, dathliad o amrywiaeth diwylliannol, nos Iau 16 Mawrth.
Yn cymryd rhan yn y cyngerdd fydd myfyrwyr o bob cwr o鈥檙 byd yn ogystal 芒 chynrychiolaeth o鈥檙 gymuned leol, yn arddangos eu diwylliannau trwy gyfrwng dawns a cherddoriaeth. Gellir disgwyl perfformiadau o India, Tsieina, Affrica, Siapan, ac wrth gwrs Prydain a Chymru!
Mae鈥檙 Gala, sy鈥檔 cael ei threfnu gan Swyddfa Cefnogi Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol wedi ei chynnal ers dros ddeng mlynedd ac wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad o bwys yng nghalendr y Brifysgol.
Mae mynediad i鈥檙 digwyddiad yn rhad ac am ddim ac mae鈥檙 drysau ar agor o 7.30, gyda鈥檙 perfformiadau鈥檔 cychwyn am 7.30.
Bydd y Brifysgol yn casglu arian tuag at Wamumbi Orphan Care Foundation, elusen fechan sydd yn cefnogi plant amddifad yn Kenya a sefydlwyd gan ddarlithydd o Ysgol yr Amgylchedd, Adnoddau Naturiol a Daearyddiaeth. Caiff unrhyw roddion eu croesawu鈥檔 fawr. Ceir rhagor o wybodaeth am yr elusen yma <http://wamumbiorphancare.org.uk/>.
Bydd gemwaith a wneir 芒 llaw a chacennau ar gael a bydd yn holl elw yn mynd at yr elusen. Cynhelir raffl a bydd bar yn gwerthu diodydd yno hefyd.
Bydd hon yn noson gyfeillgar a hwyliog ar gyfer y teulu cyfan!
Dyddiad cyhoeddi: 14 Mawrth 2017