Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 yn ennill dros yr amgylchedd
Rhys Dart, Cyfarwyddwr Undeb y Myfyrwyr, Rich Gorman Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr sydd 芒 chyfrifoldeb dros Gymdeithasau a Chynaladwyedd a Llywydd yr Undeb, Jo Caulfield gada鈥檙 gwobrwyon newyddMae Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 wedi ennill nid un na dwy, ond tair gwobr am eu gwaith amgylcheddol yn ddiweddar.
Gwobrwywyd yr Undeb efo Gwobr Aur yng Ngwobrwyon 鈥Green Impact鈥 yr NUS (Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr), wedi iddynt ennill Gwobr Efydd yn eu hymdrech gyntaf y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y gwelliant sylweddol yn eu safle yn golygu eu bod hefyd yn teilyngu ennill Gwobr y Co-operative i鈥檙 鈥楿ndeb sydd wedi Gwella Fwyaf鈥 ar sail y cynnydd eithriadol yn eu perfformiad.
Cynllun achredu amgylcheddol sy鈥檔 cael ei gynnal gan yr NUS yw Green Impact, lle caiff perfformiad amgylcheddol undebau myfyrwyr eu meincnodi鈥檔 annibynnol. Mae鈥檙 Wobr yn rhoi her i Undebau Myfyrwyr ddilyn y dulliau gweithredu gorau yn ymwneud 芒鈥檙 amgylchedd ac ystyried cynaladwyedd wrth gynnig gwasanaethau i fyfyrwyr. Nod y Gwobrau hefyd yw tynnu sylw at y gwaith da mewn perthynas 芒鈥檙 amgylchedd a wneir mewn Undebau Myfyrwyr a鈥檜 cyflwyno i鈥檙 cyhoedd.
Y llun ymgyrchu llwyddiannus Enillodd Undeb y Myfyrwyr drydedd wobr genedlaethol, Her Cyfathrebu The Ecologist , ar sail llun o鈥檜 hymgyrch i hybu ailgylchu. Nod yr ymgyrch 鈥楥ynllun Trechu Sbwriel鈥 yw helpu i gadw strydoedd 黑料不打烊 yn l芒n a thaclus drwy annog myfyrwyr i chwarae鈥檜 rhan drwy gael gwared ar sbwriel a gwneud yn si诺r fod gwastraff yn mynd i鈥檙 blychau ailgylchu priodol.
Meddai Rich Gorman, Is-lywydd Undeb y Myfyrwyr sydd 芒 chyfrifoldeb dros Gymdeithasau a Chynaladwyedd: 鈥淒yma lwyddiant gwych arall i Undeb y Myfyrwyr 黑料不打烊. Rydym wedi profi bod yr amgylchedd yn flaenoriaeth o bwys ac rydym wedi ymrwymo i leihau ein heffaith amgylcheddol ond gan barhau i ddarparu gwasanaethau, cefnogaeth a chynrychiolaeth ar ran ein myfyrwyr.鈥
Mae lluniau鈥檙 seremon茂au a鈥檙 llun ymgyrchu ar gael gan press@bangor.ac.uk
Mae Undeb y Myfyrwyr yn hybu neu鈥檔 cynnal projectau fel:
- Rhandiroedd myfyrwyr- i dyfu bwyd organig
- STAG Gr诺p Gweithredu Myfyrwyr dros Dreborth <http://www.undeb.bangor.ac.uk/societies/socsdetails.asp?club=48> Gwirfoddoli yng Ngardd Fotanegol Treborth i hybu a datblygu bioamrywiaeth
- Newid y ddau bapur newydd i gael eu hargraffu ar bapur 100% wedi鈥檌 ailgylchu
- Cynnal Pythefnos Masnach Deg gan hybu pwysigrwydd Masnach Deg
Am ragor o fanylion cysylltwch a rich.gorman@undeb.bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 11 Mai 2011