Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 yn mynd y filltir ychwanegol i dorri record byd am gadwyn o faneri
Mae cefnogwyr Masnach Deg yn Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 yn dathlu yn dilyn cyfrannu at gadwyn o faneri Masnach Deg i dorri record byd.
Ar Ddiwrnod Masnach Deg y Byd (ddydd Sadwrn 14 Mai) gosododd Sefydliad Masnach Deg gadwyn o gyfanswm o 3.4 cilomedr (2.1 milltir) o faneri o gwmpas Parc Battersea yn Llundain i ddwyn sylw at eu hymgyrch yn galw am gyfiawnder masnach i ffermwyr cotwm yng Ngorllewin Affrica.
Ymunodd Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊 芒 phobl o drefi, prifysgolion ac ysgolion Masnach Deg a mudiadau crefyddol o bob rhan o Brydain, (gan gynnwys Caerfaddon, Bedford,
Caergaint, Caerdydd, Leeds, Lincoln, Northampton, Newcastle Under Lyme, Preston, Tameside, Warrington, Wendover, Ullapool a nifer o lefydd eraill) i addurno dros 130,000 o faneri cotwm Masnach Deg 鈥 a oedd yn cyfateb i 31 cilomedr (19 milltir) 鈥 gyda negeseuon i Lywodraeth y DU a鈥檙 Senedd Ewropeaidd yn galw am ddiwedd ar gymorthdaliadau cotwm annheg.
Dywedodd Rich Gorman o Undeb Myfyrwyr 黑料不打烊: 鈥淩ydym mor falch ein bod wedi cymryd rhan mewn record byd. Roedd yr ymdrech am record yn rhan o ymgyrch gyfredol y Great Cotton Stitch-Up i roi terfyn ar gymorthdaliadau niweidiol o fewn yr Undeb Ewropeaidd a鈥檙 Unol
Daleithiau sy鈥檔 cadw ffermwyr cotwm Gorllewin Affrica mewn tlodi. Ni wnaiff hyn ynddo鈥檌 hun newid telerau masnach ond rydym yn gobeithio y bydd yn neges rymus i arweinwyr yn y DU, Ewrop a thu hwnt.鈥
Gellir cael lluniau maint llawn ar gais gan Rich Gorman - rich.gorman@undeb.bangor.ac.uk
Am wybodaeth bellach ar Sefydliad Masnach Deg: Stuart Barber, Rheolwr Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus - 020 7440 7695
Am wybodaeth bellach am y gr诺p Masnach Deg lleol: Rich Gorman - rich.gorman@undeb.bangor.ac.uk
Dyddiad cyhoeddi: 23 Mai 2011