WISERD yn cael ei nodi fel 'adnodd pwysig' yn Adolygiad Diamond
Cafodd yr Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, o dan arweiniad yr Athro Syr Ian Diamond, ei gyhoeddi yr wythnos hon. Mae'r adolygiad, a gafodd ei gomisiynu yn 2014, yn canolbwyntio ar ehangu mynediad; cefnogi anghenion sgiliau Cymru; cryfhau darpariaeth ran-amser ac ôl-radd yng Nghymru; a chynaliadwyedd ariannol hirdymor.
Cafodd cyllid ymchwil sy'n ymwneud ag ansawdd a throsglwyddo gwybodaeth eu hasesu hefyd fel rhan o'r adolygiad. Mae'r adolygiad yn gwneud sylw am y cyfraniad mae Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD) yn ei wneud yn y maes ac yn nodi:
'…mae'n amlwg bod WISERD wedi datblygu i fod yn adnodd pwysig ar gyfer darparu trosglwyddo gwybodaeth mewn ystod eang o'r gwyddorau cymdeithasol.'
Aiff yr adolygiad yn ei flaen i argymell: 'Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru i gael cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar bolisi cymdeithasol, bob pum mlynedd, gyda'r disgwyl y bydd mwyafrif ei gyllid yn dod o brosiectau.'
Sefydlwyd yn 2008 i gasglu ynghyd a datblygu'r arbenigedd sy'n bodoli eisoes mewn dulliau a methodolegau ymchwil meintiol ac ansoddol ym mhrifysgolion Aberystwyth, ºÚÁϲ»´òìÈ, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe. Mae WISERD yn gwneud gwaith ymchwil ac yn cynnal gweithgareddau meithrin gallu sy'n hwyluso datblygiad seilwaith ymchwil ar draws y gwyddorau economaidd a chymdeithasol yng Nghymru a'r tu hwnt.
Meddai'r , Cyfarwyddwr WISERD: 'Mae hyn yn gymeradwyaeth sylweddol gan Adolygiad Diamond, ac rydw i'n falch iawn bod WISERD wedi cael cydnabyddiaeth am ehangder, arbenigedd a pherthnasedd ei rhaglenni ymchwil.'
Mae'r Athro Syr Ian Diamond yn nodi yn yr adolygiad: 'Rydym yn falch o gynnig y pecyn hwn o argymhellion ar gyfer cyllido addysg uwch yn y dyfodol i Lywodraeth Cymru. Mae'r pecyn yn cynnwys elfennau sy'n plethu i'w gilydd a dylid ei ystyried yn ei gyfanrwydd; mae angen ei weithredu i gyd felly. Mae'n seiliedig ar ein gwerthoedd craidd sef y gall yr addysg, yr ymchwil a'r cyfnewid gwybodaeth sy'n digwydd mewn addysg uwch weddnewid Cymru a darparu cyfleoedd di-ri i bawb sy'n gallu elwa ar hynny.'
i ddarllen yr adroddiad yn llawn (ac i weld y dyfyniad llawn am yr argymhellion ar gyfer WISERD ar dudalen 61).
Dyddiad cyhoeddi: 30 Medi 2016