Wythnos brysur Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n
Darlithydd yn Ysgol y Gymraeg Prifysgol 黑料不打烊 yw awdur prif arlwy theatrig Eisteddfod Genedlaethol Ynys M么n eleni.
Ysgrifennwyd y ddrama air-am-air gan Dr Manon Wyn Wiliams, darlithydd Drama a Sgriptio gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac fe'i perfformir gan Theatr Genedlaethol Cymru rhwng nos Fawrth a nos Wener, 8-11 Awst, yn Ysgol Uwchradd Bodedern a leolir dafliad carreg o faes y brifwyl.
Meddai Manon: 鈥淎 minnau鈥檔 hogan o F么n, braint arbennig fu cael cydweithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru ar y cynhyrchiad hwn 补鈥檙 Eisteddfod yn cael ei chynnal ar fy ynys enedigol am y tro cyntaf un yn ystod y ganrif bresennol. Rwy鈥檔 edrych ymlaen yn arw at weld y cynhyrchiad yn ystod wythnos y brifwyl ei hun a hefyd y daith genedlaethol yn ystod mis Hydref eleni.鈥
Dyma'r ail waith o fewn tair blynedd i ddrama gan un o ddarlithwyr Ysgol y Gymraeg gael y fath amlygrwydd yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Yn 2015, Nansi, sef drama'r Athro Angharad Price, oedd prif gynhyrchiad theatrig yr 诺yl gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Dim ond un o ddegau o weithgareddau gan staff a myfyrwyr Ysgol y Gymraeg yn ystod prifwyl eleni fydd drama Manon.
Ymhlith yr digwyddiadau eraill, fore Llun bydd Samuel Jones, un o fyfyrwyr doethuriaeth yr ysgol, yn trafod gwrthrych ei broject PhD, y clasurydd T. Hudson-Williams, mewn darlith ym Mhabell y Cymdeithasau. Bnawn Llun bydd Angharad Price yn cymryd rhan mewn rhaglen i gofio am y ddiweddar Sian Owen, un o fyfyrwyr doethuriaeth llwyddiannus yr ysgol, mewn cyfarfod coffa yn y Babell L锚n. Ac yn ddiweddarach bnawn Llun, Mared Lewis, un o fyfyrwyr 么l-radd yr ysgol fydd 鈥楢wdur y Dydd鈥 yn y Babell L锚n.
Fore Mawrth, bydd Yr Athro Jason Walford Davies 补鈥檙 Athro Jerry Hunter yn trafod 鈥楧wy Lenyddiaeth Cymru: A Oes Cwlwm Perthyn鈥 mewn sesiwn ym Mhabell y Cymdeithasau, a phnawn Mawrth, bydd Dr Aled Llion Jones yn cyflwyno sesiwn bryfoclyd gan Sabine Asmus, 鈥楢nghofiwch yr Acenion 鈥︹, ym mhabell Prifysgol 黑料不打烊.
Bnawn Mercher yn y Pafiliwn, Yr Athro Gerwyn Wiliams fydd yn traddodi'r feirniadaeth yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, tra mai'r Athro Peredur Lynch fydd yn beirniadu yng nghystadleuaeth y Gadair bnawn Gwener.
Bnawn Iau yn Theatr Fach y Maes, bydd cyfle i weld dau o fyfyrwyr israddedig yr ysgol, Osian Wyn Owen a Gethin Morgan, yn actio yn nrama Gareth Evans-Jones, un o fyfyrwyr PhD yr ysgol, yng nghystadleuaeth y Ddrama Fer Agored.
Ac yn ystod parti dathlu Theatr Bara Caws yn ddeugain oed yn Theatr Fach y Maes bnawn Gwener, bydd cyfrol Ll欧r Titus, myfyriwr PhD arall, Bara Caws 鈥 Dathlu鈥檙 Deugain, yn cael ei lansio.
Ceir rhestr lawn o weithgareddau Ysgol y Gymraeg yma.
Dogfennau cysylltiedig:
Dyddiad cyhoeddi: 24 Gorffennaf 2017