Wythnos lawn o weithgareddau ar gyfer Eisteddfod yr Urdd
Mr Urdd o flaen ei well - ymysg wythnos lawn o weithgareddau ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ yn Eisteddfod yr Urdd.
Bydd Mr Urdd o flaen ei well mewn achos llys ffug ar stondin Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ar faes Eisteddfod yr Urdd ddydd Gwener 8 Mehefin. Bydd yr 'achos' yn cael ei chynnal gan staff a myfyrwyr o Ysgol y Gyfraith y Brifysgol, a bydd Mr Urdd yn chwarae rhan y sawl a gyhuddir.
Mae gweithdai Bit-bocsio a sesiynau Hwyl Gwyddoniaeth hefyd ymhlith yr ystod o weithgareddau a gweithdai ar gyfer plant a phobl ifanc ar stondin y Brifysgol trwy gydol yr wythnos.
Mae'r wythnos yn dechrau efo Diwrnod Hwyl Gwyddoniaeth o ddydd Llun i ddydd Mercher, lle bydd y gweithgareddau ymarferol i bobl ifanc yn cynnwys arddangosfeydd bywyd môr o'r Ysgol Gwyddorau Eigion a gweithdy llysnafedd gan yr Ysgol Gemeg. Ochr yn ochr â hyn bydd staff a myfyrwyr o'r Ysgol Addysg yn cynnal sesiynau paentio, adrodd straeon a chanu ar gyfer plant ifanc.
Ar ddydd Mercher, bydd yr Ysgol Hanes a Hanes Cymru yn cyfweld ymwelwyr i'r Eisteddfod, gan gynnig cyfle iddynt rannu eu profiadau a'u barn am Gymru. Ar ddydd Iau bydd Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol yn cynnal cyfres o weithdai a pherfformiadau. Un o'r uchafbwyntiau fydd gweithdy Bit-bocsio efo’r rapiwr, DJ a bit-bocsiwr Ed Holden am 10.00. Dilynir hyn gan weithdy drymio, cwis gerddoriaeth ac adloniant gan fyfyrwyr ºÚÁϲ»´òìÈ.
Bydd gweithdy cyfryngau gan yr Ysgol Astudiaethau Creadigol a'r Cyfryngau ar ddydd Gwener, yn rhoi cyfle i ymwelwyr roi cynnig ar gyflwyno, ffilmio neu olygu.
Hefyd, am 10.00 bydd yr Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol yn holi pa fath o iaith sy’n cael ei defnyddio i ‘decstio’ yn y Gymraeg? Ffurfiol yntau anffurfiol?
Disgwylir y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews ymysg y bobol a fydd yn taro mewn i’r stondin am 1.00 i lawrlwytho ‘ap’ o’r Termiadur at gyfer ei ffôn. Bydd yr ‘ap’, a drefnwyd gan Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd ei gael ar gyfer eu ffon symudol yn ogystal.
Yna mae mwy o gerddoriaeth am 3pm ar ddydd Gwener, pryd y bydd Gwibdaith Hen Fran yn darparu'r adloniant.
Ochr yn ochr â'r gweithgareddau, bydd staff y Brifysgol hefyd wrth law drwy gydol yr wythnos i ddarparu gwybodaeth ac ateb cwestiynau am astudio ym Mhrifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ.
Hefyd, mae bardd sydd ar Restr Fer Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn, y Prifardd a’r darlithydd, Gerwyn Wiliams yn perfformio ei farddoniaeth yn fyw ar stondin Palas Print ar y Maes rhwng 3.00-3.30 brynhawn dydd Mercher.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Mehefin 2012