Wythnos Lawn Ysgol y Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn
Mae rhai o staff Ysgol y Gymraeg ymhlith y beirniaid ar dair o brif wobrau llenyddol Maldwyn a’r Gororau a gynhelir rhwng 1 a 8 Awst ym mhentref Meifod. Bydd yn beirniadu’r Fedal Ryddiaith, yn beirniadu Gwobr Goffa Daniel Owen a’r yn beirniadu’r Goron.
Ac mi fydd staff a myfyrwyr yr ysgol hefyd yn brysur ar hyd wythnos yr Eisteddfod.
Am 2.15 brynhawn Sul, 2 Awst, yn y Babell Lên, cynhelir ‘Diolch, John!’, cyfarfod i ddathlu bywyd a gwaith Yr Athro John Rowlands, y beirniad llenyddol a’r nofelydd a fu farw’n gynharach eleni. Roedd John yn un o alumni enwocaf ºÚÁϲ»´òìÈ ac ar ôl ymddeol o’i swydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, dychwelodd i’w hen adran yn Athro er Anrhydedd ac yn ddarlithydd rhan-amser. Trefnir y rhaglen gan Yr Athro Angharad Price a’r Athro Gerwyn Wiliams a bydd cyfeillion a chydweithwyr eraill yn cymryd rhan sef Simon Brooks, Kate Crockett, Fflur Dafydd, Bleddyn Owen Huws, Twm Morys a Siân Teifi. Yn syth ar ôl y cyfarfod cynhelir derbyniad ym mhabell Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ ar y Maes.
Am 2.15 brynhawn Llun, 3 Awst, yn y Babell Lên, cynhelir sgwrs yng nghwmni’r i nodi cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Gerallt Lloyd Owen, Y Gân Olaf. Bydd darlleniadau a pherfformiadau o’r cerddi gan Gwenan Gibbard a John Ogwen, dau o gynfyfyrwyr Prifysgol ºÚÁϲ»´òìÈ, a threfnir y cyfarfod gan Barddas.
Yn ddiweddarach bnawn Llun yn y Pafiliwn, Gerwyn Wiliams yw un o feirniaid cystadleuaeth y Goron a ddyfernir eleni am gerdd rydd ar y testun ‘Breuddwyd’. Bydd cyfle i’w glywed yn trafod y gystadleuaeth honno mewn cyfarfod dan nawdd Llenyddiaeth Cymru yn y Lolfa Lên bnawn Mawrth am 5.45 o’r gloch.
Cyn hynny, am 8.00 o’r gloch nos Lun, cynhelir perfformiad cyntaf Nansi, drama Angharad Price am fywyd Telynores Maldwyn, Nansi Richards, a gomisiynwyd gan Theatr Genedlaethol Cymru ac a lwyfennir yn Y Stiwt, Llanfair Caereinion tan nos Wener, 7 Awst. Yna am 12.30 ddydd Mawrth, 4 Awst, yn y Cwt Drama, bydd cyfle i glywed Angharad yn sgwrsio am y cynhyrchiad gydag un o gynfyfyrwyr Ysgol y Gymraeg, Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, ynghyd â’r gyfarwyddwraig Sarah Bickerton. Cadeirydd y sesiwn fydd Dr Manon Wyn Williams, Darlithydd mewn Drama a Sgriptio dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Ysgol y Gymraeg.
Am 5.00 o’r gloch brynhawn Mawrth yn y Pafiliwn, Angharad Price fydd un o banel beirniad Gwobr Goffa Daniel Owen a ddyfernir am ‘nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf a heb fod yn llai na 50,000 o eiriau’.
Fore Mercher am 11:00 ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd cyfle i bobl ifanc ddysgu sgiliau actio mewn gweithdy ymarferol o dan arweiniad , cyn enillydd Ysgoloriaeth Bryn Terfel.
Brynhawn Mercher, 5 Awst, bydd myfyrwyr Ysgol y Gymraeg sy’n aelodau o Gymdeithas y Ddrama Gymraeg yn perfformio Panto gan Gwenlyn Parry yn Theatr y Maes. Ac yn ddiweddarach bnawn Mercher, bydd Yr Athro Jerry Hunter yn un o feirniaid y Fedal Ryddiaith a ddyfernir am gyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dwy/Dau’.
Dan nawdd y cylchgrawn Barddas, bydd Gerwyn Wiliams yn rhan o banel yn trafod cyflwr barddoniaeth Gymraeg gyfoes am 1.00 o’r gloch yn y Lolfa Lên Lolfa bnawn Mercher, 5 Awst.
Fore Iau, 6 Awst, am 11.00 o’r gloch yn y Babell Lên, bydd Peredur Lynch yn traddodi Darlith Goffa Hywel Teifi Edwards ar ‘Awdlau Eisteddfodol 1858-2014: Pa un oedd yr orau? Pa un oedd y waelaf?’
Brynhawn Gwener, am 2.45 yn y Lolfa Lên, bydd Gerwyn Wiliams yn cymryd rhan yng nghyfarfod lansio rhifyn diweddaraf Taliesin, cylchgrawn Yr Academi Gymreig, yng nghwmni’r nofelydd Robin Llywelyn a’r gantores Gwyneth Glyn.
Ac i gloi’r wythnos brysur, ar ddydd Sadwrn olaf yr Eisteddfod, 8 Awst, am 11.15 yn y Babell Lên, bydd Angharad Price yn traddodi darlith am O! Tyn y Gorchudd, y nofel a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.
Dyddiad cyhoeddi: 21 Gorffennaf 2015