Y BBC yn comisiynu dwy raglen ddogfen wedi鈥檜 seilio ar ymchwil ym Mhrifysgol 黑料不打烊
Manylion o Synagog LlandudnoCaiff ymchwil a wnaed ym Mhrifysgol 黑料不打烊 i fywyd Iddewig yng Nghymru ei darlledu gan y BBC. Darlledir dwy raglen ddogfen ar y radio, y naill yn Gymraeg a鈥檙 llall yn Saesneg, gan ddefnyddio gwaith ymchwil tri academydd yng Ngholeg y Celfyddydau, Addysg a鈥檙 Dyniaethau - Awst 11 am 13.15 ar Radio Cymru (Terfysg Tredegar) a Sul 14 ar Radio Wales am 17.30 (The Tredegar Riots ).
Mae Dr. Nathan Abrams wedi bod yn ymchwilio er 2006 i fywyd Iddewig yng Nghymru ac mae eisoes wedi trefnu arddangosfa ar fywyd Iddewig sydd wedi bod ar daith o amgylch Cymru. Gwnaed hyn ar 么l iddo lwyddo i ennill grant o 拢19,000 dan gynllun Beacons. (Mae Dr Abrams eisoes wedi sicrhau 拢85k i gyd tuag at ei faes ymchwil.)
Tynnodd yr arddangosfa sylw cwmni cynhyrchu rhaglenni Cread o Ynys M么n. Meddai鈥檙 Rheolwr Gyfarwyddwr, Steve Edwards: 鈥楧wi wedi byw yng Nghymru ar hyd fy oes a doeddwn i erioed wedi meddwl am y bennod ryfeddol yma yn ein hanes cyn i mi weld yr arddangosfa honno. Roeddwn i鈥檔 meddwl y byddai o ddiddordeb i gynulleidfa ehangach ac mae鈥檙 BBC wedi cytuno.鈥
Mae Dr. Nathan Abrams, uwch ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm, yn cynghori鈥檙 cwmni cynhyrchu fel ymgynghorydd/arbenigwr hanesyddol a chaiff ei gynorthwyo gan Cai Parry-Jones. Mae ef yn fyfyriwr PhD, a gyllidir gan yr AHRC, gan ymchwilio i鈥檙 鈥楧iaspora Iddewig yng Nghymru鈥.
Meddai Dr. Nathan Abrams : 鈥楧wi wrth fy modd yn ymwneud 芒鈥檙 rhaglenni yma. Dwi wedi ymddiddori yn hanes Iddewon yng Nghymru ers i mi ddod i Fangor yn 2006. Ers hynny cafwyd cyfres o ddigwyddiadau, megis seminarau, darlithoedd ac arddangosfeydd a gobeithir y bydd yr arlwy diweddaraf yma鈥檔 cyrraedd cynulleidfa eang iawn.鈥
Caiff y rhaglenni dogfen, o鈥檙 enw Tredegar Riots a Terfysg Tredegar, eu darlledu yn Gymraeg a Saesneg a byddant yn edrych ar hanes bywyd Iddewig yng Nghymru o鈥檙 oesoedd canol i鈥檙 cyfnod presennol.
Rhoddir cyngor ar gynhyrchu a sgriptio gan Dr. Llion Iwan, darlithydd mewn newyddiaduraeth, tra mae鈥檙 gerddoriaeth ar gyfer y ddwy raglen wedi鈥檌 chyfansoddi gan Dr Owain Llwyd o鈥檙 Ysgol Cerddoriaeth. Perfformiwyd ei gyfansoddiad gan Gerddorfa Symffoni Skopje ym Macedonia.
Bydd y rhaglen ar BBC Radio Wales a鈥檙 raglen ddogfen debyg, ond hirach, ar BBC Radio Cymru. Mae鈥檙 ddwy orsaf radio hyn yn cyrraedd cynulleidfa o 710,000 rhyngddynt bob wythnos.
Gwradno eto :
Dyddiad cyhoeddi: 10 Awst 2011