Y Brifysgol yn cofio鈥檙 Cymru a ddyfeisiodd yr anadlennydd
Prif Wenidog Carwyn Jones yn traddodi'r ddarlith.Bu Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ar ymweliad 芒 Phrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar, i ddathlu bywyd a gwaith Dr Tom Parry Jones OBE, sef un o wyddonwyr ac entrepreneuriaid Cymru sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol.
Roedd Carwyn Jones yn traddodi 鈥A Breathtaking Legacy of an Inventor, Entrepreneur & Philanthropist鈥 , sef 鈥楧arlith Goffa Dr Tom Parry Jones鈥 a oedd yn anrhydeddu鈥檙 dyn o F么n a ddyfeisiodd yr anadlennydd electronig, ac achub bywydau dirifedi yn sgil hynny.
Bu farw Tom Parry Jones yn 78 fis Ionawr 2013. Ar 么l cael ei fagu ar fferm ym M么n, graddio mewn Cemeg o Fangor, a dod yn academaidd a g诺r busnes o fri. Tua diwedd y 1960s, ac yntau ar y pryd yn Ddarlithydd yn Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Prifysgol Cymru (UWIST), datblygodd yr 鈥楢lcolyser鈥 ac, ymhen ychydig flynyddoedd, yr 鈥楢lcolmeter鈥 a ddelid 芒 llaw, ac a gynhyrchwyd gan y cwmni a sefydlwyd ganddo yng Nghaerdydd, sef Lion Laboratories Ltd. Gwerthodd yr anadlennydd electronig ar raddfa eang iawn ar draws y byd, gan ennill cyfres o wobrau. Gweddnewidiodd y modd yr oedd heddluoedd yn gallu gweithredu deddfwriaeth gysylltiedig ag yfed a gyrru.
Athro John G Hughes, Is- Ganghellor y Brifysgol, Prif Weinidog Carwyn Jones a gweddw'r diweddar Dr Tom Parry Jones OBE, Mrs Raj Parry Jones.
Meddai鈥檙 Prif Weinidog, 鈥淩wy鈥檔 falch iawn o gymryd rhan yn Narlith Goffa gyntaf Tom Parry Jones ac, wrth wneud hynny, o hyrwyddo model r么l mor neilltuol ar gyfer ymchwilwyr, entrepreneuriaid a dyngarwyr dros Gymru gyfan a鈥檙 tu hwnt.鈥
Meddai Dr David Roberts, Cofrestrydd y Brifysgol, 鈥淐afodd Dr Tom Parry Jones lawer o lwyddiannau mawr yn ystod ei yrfa, gan ennill nifer o wobrau am ei waith. Fodd bynnag, un o鈥檌 brif amcanion oedd ysbrydoli a chefnogi pobl ifanc 鈥 cenedlaethau newydd o fyfyrwyr 鈥 i gyfranogi mewn gwyddoniaeth ac entrepreneuriaeth, a bu mor hael a sefydlu Cronfa Waddol Tom Parry Jones ym Mhrifysgol 黑料不打烊 at y diben hen nifer o flynyddoedd yn 么l. Rhoddodd hyn sylfaen cadarn i 糯yl Gwyddoniaeth 黑料不打烊. Rydym yn werthfawrogol iawn o鈥檙 cyfle hwn i fynegi ein diolch ac i dalu teyrnged i gof Tom.
Dyddiad cyhoeddi: 18 Mawrth 2014