Y Brifysgol yn dathlu Gwobrau Effaith Werdd 2014
Yn ddiweddar, dathlodd Prifysgol 黑料不打烊 ei blwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y Project Effaith Werdd, gan gynnal Seremoni Wobrwyo. Bu鈥檙 digwyddiad yn gydnabyddiaeth o waith caled y timau i wneud eu gweithleoedd yn fwy gwyrdd yn ystod y flwyddyn, ac o gyfraniad cynyddol y staff at 鈥榳yrddio鈥 eu gweithleoedd wrth weithredu arferion i鈥檞 gwneud yn fwy cynaliadwy.
Mae Effaith Werdd yn gynllun achredu amgylcheddol a gynhelir yn lleol gan D卯m Cynaliadwyedd Prifysgol 黑料不打烊, a archwilir gan fyfyrwyr ac a reolir gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (UCM). Gall timau gasglu pwyntiau yn 么l faint o weithgareddau gwyrddio a gwblh芒nt yn y gweithle, a gallant ennill safon Efydd, Arian neu Aur. Am y flwyddyn gyntaf o gymryd rhan yn y project, enillodd naw t卯m y Wobr Efydd ac enillodd un t卯m y Wobr Aur..
Dyma Enillwyr y Wobr Efydd eleni: Dyfrdwy, Library Worms, Cymraeg i Oedolion, Thoday, y Drydedd Fordd, UniPlanet, PVC Posse a Gweithwyr Coleri Gwyrdd. T卯m 鈥楩ifty Shades of Green鈥 a enillodd y Wobr Aur.
Meddai Mair Rowlands, Swyddog Cynaliadwyedd Prifysgol 黑料不打烊 a fu鈥檔 cydlynu鈥檙 project, 鈥淩oedd y seremoni鈥檔 ffordd wych o ddathlu鈥檙 gwaith gwych a wneir gan staff i leihau effaith eu gweithleoedd ar yr amgylchedd. Roedd yn ysbrydoliaeth gweld y creadigrwydd, yr angerdd a鈥檙 ymroddiad a gyfrannwyd gan y timau at yr Effaith Werdd.
Meddai鈥檙 Athro John Hughes, Is-Ganghellor, 鈥淢ae鈥檙 enw da cynyddol y mae Prifysgol 黑料不打烊 wedi鈥檌 ennill ers ychydig flynyddoedd i鈥檞 briodoli i waith gwych ei staff a鈥檌 myfyrwyr. Rydym yn falch iawn o鈥檔 cynnydd ac wrthi鈥檔 ennill enw da ar lefel genedlaethol am gynaliadwyedd y mae鈥檙 gwobrau hyn yn adlewyrchiad cwbl deg ohono.鈥
Gwirfoddolodd deg o fyfyrwyr Prifysgol 黑料不打烊 fel archwilwyr ar gyfer yr Effaith Werdd. Cawsant hyfforddiant perthnasol gan UCM mewn technegau archwilio amgylcheddol, buont yn dysgu sut y cynhelir y Brifysgol, ac yn datblygu medrau defnyddiol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Bu鈥檙 seremoni hon hefyd yn gyfle i ddathlu llwyddiant parhaus gwaith Undeb y Myfyrwyr ym maes cynaliadwyedd a鈥檌 gamp wrth ennill Gwobr Aur uchel ei pharch yng Ngwobrau Effaith Werdd UCM, gan ennill Gwobr 鈥Communications Challenge鈥 yr Ecologist o ganlyniad i ffilm 鈥eco-stunt鈥 un funud, gan ddefnyddio cyfrwng ffilm i gyflwyno neges amgylcheddol. Cafodd Undeb y Myfyrwyr hefyd ei enwi鈥檔 Undeb y Flwyddyn (anfasnachol).
Dyddiad cyhoeddi: 22 Mai 2014