Y Gweinidog Cyllid yn cael gweld sut mae prosiect ymchwil sy鈥檔 cael cyllid gan yr Undeb Ewropeaidd yn hybu twf busnesau
Yn ddiweddar (Iau 12 Chwefror), bu Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, ar ymweliad 芒鈥檙 Gogledd i weld sut mae prosiect sy鈥檔 cael cymorth gan yr UE yn helpu busnesau i fod yn fwy cystadleuol drwy gydweithio 芒 phrifysgolion Cymru.
Prifysgol 黑料不打烊 sy鈥檔 arwain y prosiect Ysgoloriaethau Sgiliau鈥檙 Economi Wybodaeth (KESS). Mae鈥檙 prosiect gwerth 拢31 miliwn hwn yn cael cymorth o fwy na 拢20 miliwn gan yr UE. Nod y prosiect, sy鈥檔 helpu busnesau yng Nghymru i gydweithio ag academyddion a myfyrwyr o brifysgolion Cymru, yw datblygu cynnyrch sy鈥檔 torri tir newydd ar gyfer llwyddo yn y byd masnachol.
Mae鈥檙 prosiect yn helpu i ysgogi gallu ymchwil ymhlith cwmn茂au Cymru, yn arbennig busnesau bach a chanolig (BBaCh). Mae鈥檔 gwneud hyn drwy eu cefnogi i gynnal ymchwil, datblygu technolegau allweddol newydd a recriwtio ymchwilwyr.
Mae鈥檙 cynllun hefyd yn helpu prifysgolion i ddatblygu eu gallu ymchwil drwy baratoi a hyfforddi pobl i ddod yn weithwyr ymchwil proffesiynol gan ymgymryd 芒 chymhwyster gradd Meistr neu PhD. Fel rhan o鈥檙 cynllun, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle hefyd i ennill dyfarniad datblygu sgiliau 么l-radd.
Mae bron i 400 o gyflogwyr wedi elwa ar yr ymchwil newydd, lefel uchel, sy鈥檔 cael ei chynnal gan raddedigion mewn meysydd twf allweddol fel yr economi ddigidol a charbon isel, iechyd a biowyddorau a pheirianneg uwch.
Cafodd y Gweinidog gyfarfod 芒 chwmn茂au sy鈥檔 manteisio ar KESS, gan gynnwys Astral Dynamics, BBaCh sydd wedi鈥檌 leoli ym Mangor. Mae鈥檙 busnes hwn yn datblygu apiau sydd ar flaen y gad ar gyfer nyrsys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Cafodd y Gweinidog ymweld hefyd ag Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari yn Llanfairfechan. Mae鈥檙 Ymddiriedolaeth yn cynnal ymchwil i gynhyrchu cnydau bwyd sy鈥檔 rhydd o unrhyw glefydau, ac sy鈥檔 fwy costeffeithiol ac yn cynhyrchu llai o garbon gan nad oes angen defnyddio unrhyw beth i ladd ffwng na thai gwydr sydd wedi鈥檜 gwresogi wrth eu tyfu.
Yn ystod ei hymweliad ag Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari, cafodd y Gweinidog ei thywys o amgylch yr ardaloedd lle mae treialon yn cael eu cynnal. Yn yr ardaloedd hynny, mae鈥檙 Ymddiriedolaeth yn cynnal ymchwil a allai arwain at dorri costau wrth gynhyrchu tatws a lleihau 么l troed carbon y broses.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyllid Llywodraeth Cymru:
鈥淢ae cronfeydd hanfodol yr UE yn helpu i gynyddu nifer yr ymchwilwyr rhagorol sy gennym ni yma yng Nghymru. O ganlyniad, mae gallu ymchwil Cymru mewn meysydd allweddol yn cynyddu, a bydd hyn yn cael effaith amlwg a hirdymor ar gynhyrchiant a throsiant busnesau.
鈥淵n ogystal 芒 helpu busnesau i arallgyfeirio a thyfu, mae鈥檙 prosiect hefyd wedi arwain at gyflogaeth a budd economaidd ar gyfer pobl Cymru.鈥
Dywedodd Dr David Shaw, Cyfarwyddwr Ymchwil Ymddiriedolaeth Sarvari:
鈥楻ydyn ni鈥檔 dal i gynnal ymchwil i gnydau sy鈥檔 gallu gwrthsefyll clwy tatws drwy fridio tatws gwydn, sydd ddim yn galw am lawer o ofal, ac sy鈥檔 gallu gwrthsefyll clwy鈥檙 tatws.
鈥淒rwy dyfu鈥檙 rhain, bydd llai o blaladdwyr yn cael eu rhyddhau i鈥檙 amgylchedd yn ystod y broses o gynhyrchu tatws. Mae prosiect KESS yn ein cefnogi gyda鈥檙 ymchwil hon drwy ein helpu i elwa ar y technegau diweddaraf o ran bridio moleciwlaidd.
鈥淒iolch i鈥檙 prosiect hwn, rydyn ni wedi gallu ymchwilio i syniadau ymchwil na fyddai wedi bod yn bosibl heb y gefnogaeth a ddarperir gan KESS.鈥
Dywedodd Stuart Bond, Cyfarwyddwr Astral Dynamics:
鈥淢ae Astral Dynamics, cwmni gweddnewid technoleg sy鈥檔 seiliedig ar wybodaeth, yn tyfu鈥檔 gyflym. Ond, fel unrhyw fusnes bach a chanolig arall rydyn ni鈥檔 wynebu heriau go iawn wrth geisio cynnal cydbwysedd rhwng cyflenwi a鈥檙 angen am Ymchwil a Datblygu parhaus.
鈥淒rwy gydweithio 芒 KESS, rydyn ni wedi llwyddo i noddi dau fyfyriwr ar brosiectau sy wir yn cyflawni canlyniadau Ymchwil a Datblygu ar ein rhan ni. Ac, rydyn ninnau wedi gallu ariannu eu cyrsiau Meistr hwythau. Diolch i KESS, rydyn ni mewn sefyllfa well nawr i fynd i鈥檙 afael 芒 heriau allweddol sy鈥檔 wynebu cymdeithas a rydyn ni hefyd yn gweithio tuag at ddatblygu cyfleoedd gwaith hirdymor ar gyfer unigolion medrus lleol. Mae pawb ar eu hennill; Astral Dynamics a鈥檙 myfyrwyr Meistr. Ond, mae buddsoddi mewn Ymchwil a Datblygu hefyd yn rhan allweddol o鈥檙 ateb i鈥檔 helpu ni i gyd i ddod allan o鈥檙 argyfwng economaidd rydyn ni ynddo heddiw.鈥
Dywedodd yr Athro John Hughes, Is-ganghellor Prifysgol 黑料不打烊:
鈥淩ydyn ni鈥檔 falch o groesawu鈥檙 Gweinidog i Fangor unwaith eto a diolch iddi am ei chefnogaeth i KESS. Mae鈥檙 prosiect wedi galluogi prifysgolion Cymru i weithio gyda chwmn茂au a sefydliadau lleol i gynnal ymchwil y bydd y cwmn茂au eu hunain yn elwa鈥檔 uniongyrchol arni ac a fydd yn dod 芒 budd economaidd mawr i Gymru.
鈥淒im ond un maes y mae鈥檙 Brifysgol yn gweithio ynddo gyda Llywodraeth Cymru ac Ewrop i ddod 芒 budd economaidd i鈥檙 ardal leol ac i fusnesau yng Nghymru yw鈥檙 fenter KESS.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 13 Chwefror 2015