Y Gweinidog Cymreig dros Ddiwylliant yn ymweld 芒 safle Canolfan newydd eiconig Pontio
John Griffith AC, Gweinidog Cymreig dros Ddiwylliant a Chwaraeon, yn ymweld 芒 safle PontioBu鈥檙 Gweinidog Cymreig dros Ddiwylliant a Chwaraeon, John Griffiths AC, yn ymweld 芒 safle ym Mhrifysgol 黑料不打烊 yn ddiweddar (Iau23 Ionawr2013).
Bu Mr Griffiths ar daith o amgylch y Ganolfan Celfyddydau ac Arloesi, a fydd yn agor ym Medi 2014, yng nghwmni Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G. Hughes.
Gwelodd Mr Griffiths y gwaith a wnaed eisoes ar y Ganolfan bum llawr a fydd yn cynnwys theatr o faint canolig (Theatr Bryn Terfel), theatr stiwdio, sinema, canolfan dylunio ac arloesi, Undeb y Myfyrwyr, ystafelloedd darlithio helaeth, mannau dysgu cymdeithasol, bwyty, bar, caffi a nifer o elfennau eraill.
Meddai John Griffiths AC:
Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Ystadau鈥檙 Brifysgol, yn esbonio datblygiadau ar y safle i鈥檙 Gweinidog鈥淩oeddwn yn falch iawn o'r cyfle i ymweld 芒 safle Pontio - project a fydd yn hwb mawr iawn i'r celfyddydau yn y rhanbarth yn ogystal ag i ddiwylliant Cymraeg a Chymreig. Dwi'n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Fangor i weld yr adeilad gorffenedig a gweld rhai o'r digwyddiadau gwych y bwriedir eu cynnal ynddo. Mae鈥檙 project yma鈥檔 fuddsoddiad enfawr ym Mangor a gall pawb fod yn wirioneddol falch o gael darpariaeth o'r math yma yn y ddinas.鈥
Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol 黑料不打烊, yr Athro John G Hughes:
"Gyda llai na blwyddyn i fynd nes byddwn yn agor, mae gweithgaredd ar y safle ac yn y gymuned yn prysuro yn barod at ein tymor agoriadol cyffrous o ddigwyddiadau artistig. Bydd Pontio'n ganolbwynt i'r gymuned leol ac i'r Brifysgol fel ei gilydd - lle i gyfarfod, bwyta, dysgu, a chael ein diddanu a'n haddysgu.鈥
Meddai Elen ap Robert, cyfarwyddwr artistig Pontio:
John Griffiths AC ar y safle efo鈥檙 Athro John G Hughes, is Ganghellor y Brifysgol, Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio a Dylan Roberts, Cyfarwyddwr Ystadau Prifysgol 黑料不打烊鈥淏ydd y theatrau a'r sinema yn y ganolfan yn gartref i amrywiaeth eang o gelfyddyd - o ddrama a dawns i gomedi a ffilm, o sioeau syrcas trawiadol i gigs bach a mawr, ac o opera siambr i gerddoriaeth arbrofol a byd-eang. Bydd yn ganolbwynt i ddoniau lleol a bydd yn cynnig profiadau celfyddydol o'r ansawdd uchaf o Gymru, gwledydd eraill Prydain ac o bob rhan o'r byd.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 24 Ionawr 2014