Y gwelliannau mwyaf yng nghyfnodau diagnosio canserau鈥檙 coluddion, yr oesoffagws a鈥檙 pancreas
Datganiad i鈥檙 Wasg gan y National Cancer Research Institute
Mae ymchwil newydd yn dangos gwelliant mawr wrth ymdrin 芒 chanser y coluddion, yr oesoffagws a鈥檙 pancreas. Gwelwyd gostyngiad sylweddol yn yr amser y mae鈥檔 ei gymryd o鈥檙 adeg y mae cleifion yn mynd i weld eu meddyg teulu gyntaf gyda'r symptomau i鈥檙 adeg pan maent yn cael diagnosis o'r afiechyd.
Yn 2001-2 roedd yn cymryd 96 diwrnod ar gyfartaledd i roi diagnosis o ganser y coluddion (colon a鈥檙 rhefr) i gleifion ar 么l iddynt roi gwybod gyntaf am y symptomau i'w meddyg teulu. Gostyngodd hyn yn sylweddol i 75 diwrnod yn 2007-08.
Yn achos canser yr oesoffagws, y cyfnod ar gyfartaledd i roi diagnosis ar 么l gweld meddyg teulu oedd 59 diwrnod yn 2001-2. Gostyngodd hyn i 48 diwrnod yn 2007-8. Gyda chanser y pancreas y cyfnod ar gyfartaledd i roi diagnosis ar 么l ymweliad cyntaf 芒 meddyg teulu oedd 63 diwrnod. Gostyngodd hyn i 52 diwrnod yn 2007-8.
Gwelwyd gostyngiad hefyd, er nad oedd yn un sylweddol, mewn achosion canser y fron, y stumog a鈥檙 ysgyfaint.
Gostyngodd cyfnod rhoi diagnosis am ganser y fron o 27 diwrnod yn 2001-2 i 25 diwrnod yn 1007-8. Gyda chanser y stumog gostyngodd y cyfnod rhoi diagnosis o 88 diwrnod yn 2001-2 i 77 diwrnod yn 2007-8, a chyda chanser yr ysgyfaint o 106 diwrnod yn 2001-2 i 102 diwrnod yn 2007-8.
Hanner ffordd rhwng y ddau gyfnod hyn, yn 2005, cyhoeddwyd canllawiau鈥檙 NICE ar gyfeirio achosion o ganser posibl. Mae鈥檙 canllawiau hyn yn rhoi manylion i feddygon teulu am y symptomau a ddylai beri iddynt anfon cleifion i gael profion pellach.
Meddai Dr Richard Neal, prif ymchwilydd yng Nghanolfan Gogledd Cymru dros Ymchwil i Ofal Sylfaenol ym Mhrifysgol 黑料不打烊: 鈥淔e wnaethom ddarganfod bod cyfnodau diagnostig yn gallu newid dros amser. Efallai bod y gostyngiad rhwng 2001-2 a 2007-8 i鈥檞 briodoli鈥檔 rhannol i鈥檙 canllawiau a gyhoeddwyd gan NICE yn 2005 ar gyfeirio cleifion yr amheuir bod canser arnynt. Mae鈥檙 rhain yn rhoi canllawiau clir pa symptomau a ddylai wneud i feddyg gyfeirio claf am ymchwiliadau pellach. Ond gwelir amrywiaeth sylweddol rhwng canserau, gyda鈥檙 cyfnodau diagnosio uchaf gyda鈥檙 canserau hynny sydd anoddaf i鈥檞 canfod.
鈥淐eir cyfnodau diagnostig hiraf yn achos cleifion sydd 芒 chanserau anodd i鈥檞 canfod a rhai gyda symptomau nad oedd yn teilyngu cyfeirio brys. Ond mae cyfnodau diagnostig yn parhau鈥檔 hir yn achos y rhan fwyaf o ganserau ac mae potensial am ostyngiad pellach.鈥
Meddai Sara Hiom, cyfarwyddwr gwybodaeth Cancer Research UK: 鈥淢ae鈥檔 galonogol iawn gweld bod cleifion, drwodd a thro, yn cael diagnosis cyflymach ar gyfer rhai mathau o ganser, ac felly gwell siawns o ganlyniad llwyddiannus. Mae鈥檔 hanfodol bod meddygon teulu鈥檔 cael gwybodaeth o ansawdd dda er mwyn medru gwneud y penderfyniadau gorau dros eu cleifion. Er hynny, mae lle i wella鈥檔 sylweddol ac mae lleihau鈥檙 cyfnod o ddiagnosis i driniaeth yn rhan allweddol o wella鈥檙 canlyniadau i bobl gyda chanser.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 16 Tachwedd 2011