Y Gymraeg a Gwirfoddoli
Mae ymchwil gan , Prifysgol 黑料不打烊, a wedi tanlinellu pa mor bwysig ydyw cael sector gwirfoddol iach sydd yn medru diwallu anghenion Cymru ddwyieithog. Mae鈥檙 ymchwil a wnaed ar ran Comisiynydd y Gymraeg yn tynnu sylw at bwysigrwydd denu gwirfoddolwyr dwyieithog i gynnig gweithgareddau a darparu gwasanaethau i鈥檙 cyhoedd yng Nghymru. Mae鈥檙 gwaith hefyd wedi tynnu sylw at fannau lle gellid gwella ar y ddarpariaeth a鈥檙 cyfleoedd cyfredol.
Mae鈥檙 adroddiad, Y Gymraeg a Gwirfoddoli, yn tynnu sylw at y galw o fewn y sector wirfoddol am wirfoddolwyr sy鈥檔 siarad Cymraeg. Dangosai鈥檙 ymchwil bod gallu delio gyda鈥檙 cyhoedd yn eu dewis iaith yn ased werthfawr ar gyfer sefydliadau鈥檙 trydydd sector, wrth iddynt geisio diwallu anghenion eu defnyddwyr. Yn ogystal 芒 hyn mae鈥檙 ymchwil yn awgrymu bod gwirfoddolwyr eu hunain hefyd yn defnyddio gwirfoddoli er mwyn datblygu sgiliau personol, a sgiliau ieithyddol yn benodol.
Wrth holi鈥檙 sector; yn fudiadau, cyrff hyrwyddo gwirfoddolwyr a gwirfoddolwyr eu hunain, am eu profiadau gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg, canfuwyd bod cyfleon gwirfoddoli a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith yn bodoli ym mhob cwr o Gymru.
Yn 么l Dr Cynog Prys, Darlithydd Cymdeithaseg ym Mhrifysgol 黑料不打烊 ,ac un o awduron yr ymchwil:
鈥淯n peth diddorol a ddaeth i鈥檙 amlwg oedd bod mwy o wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith wedi mynd ati i wirfoddoli drwy ddilyn llwybrau anffurfiol - traddodiadau teuluol o wirfoddoli, neu efo鈥檙 capel neu fudiad, yn hytrach na thrwy ddefnyddio sefydliadau hybu gwirfoddoli, neu drwy gynnig gwirfoddoli efo elusennau mawrion Prydeinig. Awgryma hyn bod angen mwy o sylw i鈥檙 hyn sy鈥檔 digwydd yma, gan gynnwys edrych ar ddelwedd a chyfathrebu鈥檙 mudiadau Prydeinig fel bod gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith yn teimlo bod lle yno iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod y mudiadau yma yn aml angen y sgiliau ieithyddol.鈥
鈥淢ae cyfle yma hefyd i鈥檙 sector hybu gwirfoddoli ac i鈥檙 trydydd sector ei hun fod yn fwy rhagweithiol yn y modd y maent yn cynllunio a hybu cyfleoedd gwirfoddoli er mwyn sicrhau eu bod yn nodi鈥檙 mannau lle mae angen a鈥檙 cyfleoedd i wirfoddoli drwy鈥檙 Gymraeg. Mae angen hefyd cyfathrebu鈥檔 glir am y cyfleon i wirfoddoli yn y Gymraeg a bod Cymraeg bob dydd yn ddigon da i鈥檞 ddefnyddio wrth wirfoddoli.
Meddai Bryan Collis, Swyddog Ymchwil gyda鈥檙 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
鈥淒angosodd yr ymchwil fod gwirfoddolwyr yn defnyddio鈥檜 Cymraeg mewn sawl sefyllfa, ond bod yna gyfle i wneud fwy o ddefnydd o鈥檙 Gymraeg a hefyd i'r rhai sy鈥檔 rheoli gwirfoddolwyr o fod yn fwy ymwybodol o鈥檙 modd y mae eu hymddygiad yn dylanwadu i ffordd y mae Cymraeg a Saesneg yn cael eu defnyddio. Mae wedi bod yn waith ymchwil defnyddiol sydd eisoes wedi cael effaith ymarferol ar sut y mae cyfleoedd gwirfoddoli鈥檔 cael eu hybu鈥
Meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg:
鈥淢ae鈥檙 ymchwil hwn wedi cynnig tystiolaeth i ni wrth gyfarfod gyda Llywodraeth Cymru a hyrwyddwyr gwirfoddoli i drafod addasu eu polis茂au a chanllawiau gwirfoddoli.
Rydym hefyd wedi cynnwys yr argymhellion a gynigwyd fel rhan o鈥檔 hyfforddiant i sefydliadau trydydd sector.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 23 Gorffennaf 2014